Back to All Events

G A E A F: THE WELSH HOUSE


  • Oriel Myrddin Gallery Church Lane Carmarthen SA31 1LH (map)

Y ddelwedd drwy garedigrwydd Heather Birnie

13 Tachwedd - 31 Rhagfyr 2021

Sarah Jerath // Llio James // Rosie Farey // Megan Ivy Griffiths // Layla Robinson // Heather Hancock // David White // Lilly Hedley // Terri Lee-Howard (M a g n I f I c e n t M U D) // Every Story Ceramics // Anja Dunk

Wedi’i guradu â Dorian Bowen o The Welsh House, mae arddangosfa eleni yn edrych ar y syniad o ‘gartref’ a’r hyn y mae wedi dod i’w olygu i ni i gyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Beth yw ein cysuron mwyaf gwerthfawr a phwy yw'r crefftwyr y tu ôl i rai o'n hoff eiddo? Mae rhai o'r crefftwyr mwyaf medrus sy'n gweithio ledled Cymru a'r DU heddiw yn ymuno â ni, pob un wedi'i gartrefu yn ein Tŷ Unnos (One Night House) ein hunain - cred yn niwylliant gwerin Cymru o hawlio cartref yn ôl dros un noson.

Camwch i mewn i'n Tŷ dros dro ac archwiliwch amrywiaeth o wrthrychau eithriadol, wedi'u gwneud â llaw sy'n sicr o gael eu trosglwyddo trwy genedlaethau i ddod.

Previous
Previous
October 23

Unlearned

Next
Next
January 8

Gareth Hugh Davies: TIR COF