Cyfle:

Curadur Ymgysylltu


Teitl Swydd: Curadur Ymgysylltu

Math o gontract: Cyfnod penodol o ddwy flynedd (llawrydd)

Dyddiad cychwyn: Ionawr 2024

Ffi: £25,000 (100 diwrnod @ £250 y dydd) ynghyd â threuliau

Dyddiad cau: Dydd Gwener 27 Hydref 2023 17:00

Mae OM yn chwilio am ymgeisydd addas i weithio fel Curadur Ymgysylltu ar raglen dwy flynedd unigryw ar gyfer y celfyddydau gweledol a sector treftadaeth yng Nghymru. Mae'r rôl yn arbennig o addas i berson sy’n dod o'r Mwyafrif Byd-eang, Mae hon yn golygu o’r diaspora Affricanaidd, Asiaidd, Caribïaidd, Sbaenaidd, Latino, Dwyrain Ewrop neu’r Dwyrain Canol; Unrhyw un sy’n dod o grŵp ethnig nad yw’n wyn yn unig ac unrhyw un sy’n dod o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan unrhyw unigolion sy'n perthyn i grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Er enghraifft, unigolion sy'n wynebu rhwystrau oherwydd eu rhywioldeb, eu cefndir cymdeithasol ac economaidd neu’r ffaith eu bod yn Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol.


Cefndir

Fel Curadur Ymgysylltu byddwch yn rhan o Dîm Prosiect Safbwynt(iau) OM sy’n cynnwys yr Ymarferydd Creadigol Lucille Junkere, Rheolwr Oriel OM, Cynorthwy-ydd Oriel OM, Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Byddwch yn gyfrifol am greu, cynllunio a threfnu amgylcheddau i gysylltu’r Ymarferydd Creadigol a’i hymarfer â’r cymunedau a’r grwpiau hyn, eu naratifau a’u profiadau.

Byddwch yn nodi cymunedau a grwpiau targed ac yn meithrin perthnasoedd ymddiriedus trwy weithgarwch creadigol, gan sicrhau bod eu straeon yn cael eu clywed. Gan gymhwyso eich disgyblaeth guradurol byddwch yn dyfeisio ac yn cyflwyno cyfres o gyfleoedd creadigol i gyfranogwyr, yn enwedig y rhai y mae eu straeon wedi’u hesgeuluso neu eu dileu gan gasgliadau ac archifau cenedlaethol Cymru. Bydd y gyfres hon o ymgysylltu, gweithgareddau a digwyddiadau wedi’u hwyluso yn bleserus ac yn heriol i gyfranogwyr, gan gynnig gofod ysbrydoledig a diogel iddynt ar gyfer gweithgaredd creadigol a deialogau ystyrlon.

Fel Curadur Ymgysylltu byddwch yn ategu rôl yr Ymarferydd Creadigol drwy weithio ar y cyd ac yn annibynnol ar adegau. Byddwch hefyd yn cyfrannu at wybodaeth a gallu OM i arallgyfeirio ei gynulleidfaoedd a rhaglenni y tu hwnt i hyd oes y rhaglen Safbwynt(iau) dwy flynedd.

Bydd y rôl yn un heriol ond bydd yn cynnwys elfen DPP, a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich gyrfa a/neu ymarfer yn ystod y prosiect gyda'r Thîm Safbwynt(iau) OM. Bydd Ffrind Beirniadol hefyd wrth law ar gyfer y Tîm Prosiect Safbwynt(iau) i gynnig cynghreiriad, cefnogaeth a golwg annibynnol y tu hwnt i gyflawniadau’r prosiect.


Amdano chi

Bydd gennych brofiad amlwg o weithio gyda chymunedau amrywiol a defnyddio'r celfyddydau i feithrin ymdeimlad o gymuned, gwella dealltwriaeth ddiwylliannol, a hyrwyddo creadigrwydd a mynegiant ymhlith aelodau'r gymuned. Rydych yn cydnabod safbwyntiau, profiadau, a straeon ddoe a heddiw am gymunedau amrywiol sy'n perthyn i'r Mwyafrif Byd-eang. Rydych chi'n gallu gweithio'n annibynnol a chyda menter, tra'n deall sut y gallwch chi gyfrannu'n fwyaf effeithiol at gyflawni ymdrechion cyfunol ehangach y tîm.

Rydych wedi cyflwyno gweithgaredd dysgu o ansawdd uchel yn y gorffennol o fewn sefydliad celfyddydau gweledol / treftadaeth. Rydych chi wedi helpu i nodi a datblygu cynulleidfaoedd newydd trwy ymgynghori ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae gennych thueddfryd i ddeall a rhannu arferion creadigol pobl eraill mewn modd craff.

Rydych chi'n:

·         Yn llawn cymhelliant ac yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth i amcanion a blaenoriaethau cytunedig

·         Cyfathrebwr da ac yn gallu cyfleu gwybodaeth yn glir (ar lafar ac yn ysgrifenedig)

·         Trefnus, sylwgar i fanylion , cynlluniwr, gyda rheolaeth amser dda

·         Parodrwydd i rannu gwybodaeth a dysgu

·         Sensitif, tosturiol, ymwybodol o faterion cyfiawnder cymdeithasol

·         Hyblyg ac ymarferol gydag agwedd ‘gallu gwneud’

·         Yn gyfarwydd â methodoleg y dull gwerthuso a chasglu tystiolaeth (gan gynnwys ffotograffiaeth a recordio sain)

·         Hyderus gyda rheoliad GDPR ynghylch diogelu cyfrinachedd a data pobl


Cyllideb

·         Ffi curadur (yn seiliedig ar 100 diwrnod @ £250 – ffi sefydlog o £25,000

·         Mae cyllideb ychwanegol ar gyfer deunyddiau ar gyfer gweithdai a darpariaeth (Sylwch hefyd fod gennym fynediad at gamerâu digidol cryno, iPad, a phecyn recordio podlediad ac ati) 

·         Teithio curadur – £900  

·         Mae cyllideb ychwanegol ar gyfer costau mynediad cyfranogwyr, marchnata digwyddiadau, taflenni ac ati, a fydd yn cael eu trafod a'u cwblhau gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.

Dyletswyddau ychwanegol

Byddwch yn ymuno â thîm bach gyda chapasiti cyfyngedig ond uchelgeisiau mawr ar gyfer y prosiect cyffrous hwn. Fel y cyfryw, efallai y gofynnir i chi ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a/neu gyfrifoldebau eraill nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y disgrifiad swydd hwn. Bydd unrhyw ddyletswyddau ychwanegol yn gydnaws â thasgau a dyletswyddau rheolaidd.


I wneud cais

Cyflwynwch ddatganiad o 800-1000 o eiriau yn disgrifio eich addasrwydd ar gyfer y rôl a'r dulliau gweithredu y byddech yn eu cyflawni drwy'r prosiect hwn (ystyriwch nodau'r prosiect yn y cynnig hwn). Cynhwyswch hefyd:

·         CV cyfredol

·         Manylion cyswllt 2 ganolwr a'u perthynas â chi

·         Ffurflen monitro cydraddoldeb wedi'i chwblhau (wedi'i darparu ar wahân)

Byddwn yn derbyn datganiadau a’r wybodaeth uchod a ddarperir fel recordiad sain neu fideo o 12 munud neu lai. Os ydych yn cyflwyno eich cais yn y fformat hwn, anfonwch e-bost at ddolen yn hytrach nag atodiad. Ni fydd ansawdd cynhyrchu eich recordiad yn dylanwadu ar eich cais, ond rhaid i'ch ymateb fod yn glywadwy ac yn glir i'r panel.

Os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch i wneud cais am y rôl hon neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Catherine Spring cmspring@sirgar.gov.uk neu Rachel Vater rvater@sirgar.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01267 222775

 

Anfonwch eich cais drwy e-bost at:

OMEducationQueries@carmarthenshire.gov.uk gyda phennawd y pwnc Safbwynt(iau) Curadur Ymgysylltu

Neu drwy'r post at: Safbwynt(iau) Curadur Ymgysylltu, Oriel Myrddin, ℅ Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili, Sir Gaerfyrddin, SA31 2JG (DS Ni ellir dychwelyd deunydd a gyflwynir drwy'r post.)

Rhaid i'ch deunydd gyrraedd erbyn y dyddiad cau ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am bethau a gollwyd yn y post neu sy'n cyrraedd yn hwyr.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 27 Hydref 2023 17:00


Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd ceisiadau e-bost yn derbyn ymateb awtomatig a chais i lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb. (Dylid anfon ceisiadau post drwy'r post cofrestredig i gadarnhau eu bod wedi'u derbyn.)

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hysbysu gan: Dydd Mercher 1 Tachwedd 2023

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yng Nghaerfyrddin ddydd Mercher 8 Tachwedd neu Caerdydd ddydd Iau 9 Tachwedd.

Mae cyfweliadau Zoom yn opsiwn ar gais os ydw’ch lleoliad yn ei gwneud hi'n anodd mynychu yn bersonol.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno gwiriad DBS.


Ynglŷn â Safbwynt(iau)

Mae Safbwynt(iau) yn gydweithrediad newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, sy’n ceisio sicrhau newid sylweddol yn y ffordd y mae sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Gan feithrin partneriaethau rhwng safleoedd amgueddfeydd cenedlaethol Cymru a sefydliadau celfyddydau gweledol, bydd Safbwynt(iau) yn cefnogi saith o weithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol i lwyfannu straeon heb eu hadrodd, creu ymatebion artistig a gweithredu fel asiant ar gyfer newid. Mae’r rhaglen Safbwynt(iau) yn ceisio herio ffyrdd presennol o feddwl drwy ymgysylltu â chymunedau i archwilio’r celfyddydau gweledol a’r sector treftadaeth trwy lens gwrth-hiliaeth a decolonial.

Cefnogir Safbwynt(iau) gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymdrech ar y cyd i gyflawni nodau diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru.


Am Oriel Myrddin (OM)

OM yw cartref crefft gyfoes a chelf gymhwysol yng Ngorllewin Cymru. Mae'n cefnogi amgylchedd creadigol lle gellir dilyn syniadau cyfoes trwy grefftwaith yn ei ddiffiniad ehangaf o sgil artistig, meddwl a dychymyg.

Cartref OM yw Caerfyrddin, tref farchnad ag iddi arwyddocâd rhanbarthol cryf sy’n gwasanaethu sir wledig Sir Gaerfyrddin. Mae’r sir yn ardal eithaf ungnwd, ond nid yw’n dilyn y dylai rhaglenni a gweithgareddau OM adlewyrchu hyn. Mae OM yn benderfynol o fod yn gynghreiriad i bobl o gefndiroedd lleiafrifol. Ein gweledigaeth yw byd lle mae gwerth crefftwaith, sgil a dyfeisgarwch yn cael ei werthfawrogi ac yn gyraeddadwy gan bawb.

Sylwer: Mae OM ar gau ar hyn o bryd tra bod yr oriel yn cael ei hailddatblygu cyfalaf. Mae ein swyddfa oddi ar y safle wedi'i lleoli yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili, Sir Gaerfyrddin, SA31 2JG.

Mae'r swydd hon yn cael ei hariannu'n hael gan ArtFund

Next
Next

Afon Gydnerth Creadigaeth: Taith Trwy i fyny