Edrych yn ôl…

Wel, am flwyddyn! Er gwaethaf y cyfyngiadau parhaus ynghylch Covid-19 (mae'n ddrwg gennyf ei godi!) rydym wedi llwyddo i gael blwyddyn wych o arddangosfeydd ac ymgysylltu â'r gymuned, a diolch i chi gyd am hynny. 

Fe wnaethom ddechrau 2021 gyda'n prosiect cymunedol Hoelion Wyth Cymdeithas - prosiect aruthrol o arwyddocaol ac amserol sy'n edrych ar bwysigrwydd diwylliannol y cerfluniau a'r henebion ar draws tref Caerfyrddin a'r hyn y maent bellach yn ei gynrychioli yn y cyfnod modern.

Trwy gyfres o sgyrsiau cyhoeddus ar-lein a luniwyd yn feddylgar, fe wnaethon ni ymchwilio i hanes Caerfyrddin i gael gwell dealltwriaeth ohoni heddiw.  Mae'r sgyrsiau hyn i gyd bellach ar gael ar ein tudalen Youtube. Cawsom y pleser hefyd o weithio gyda’r myfyrwyr cerflunwaith blwyddyn gyntaf o Ysgol Gelf Caerfyrddin ar ein ap realiti estynedig yn dangos celf gyhoeddus amgen.   Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn trwy fynd draw i'n tudalen Hoelion Wyth Cymdeithas.

Ar ôl ychydig o amheuon ynglŷn ag ailagor ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaethom ni ailagor ein drysau ichi ym mis Mai yn y pen draw gyda sioe baentio unigol Helen Booth B R E A T H E. Mewn ymateb i’w chyfnod fel artist preswyl yng Nghanolfan Celfyddydau a Diwylliant Hafnarborg yng Ngwlad yr Iâ, fe wnaeth Helen ein tywys trwy’r hyn y mae hi ei hun yn cyfeirio ato fel y ‘Tirlun Dwyfol’. Er na wnaeth y sioe agor yn swyddogol i'r cyhoedd tan 18 Mai, braint oedd cael y paentiadau yn yr oriel ers dechrau mis Mawrth er mwyn cynnig cysur a myfyrdod tawel i ni yn ystod amseroedd eithaf brawychus a chythryblus.  Diolch yn fawr i Helen Booth a'i merched Hattie a Leia Morrison am eu cefnogaeth gadarn ac am fod yn bobl mor rhinweddol!  

Ochr yn ochr â'n harddangosfeydd, fe wnaethom barhau i gydweithio ag Ensemble Cymru er mwyn cyflwyno cyfres o bodlediadau cerddorol i chi. Mae'r podlediadau hyn, sydd ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn gyfle gwych i bobl ifanc gymryd hoe, gorffwys eu llygaid ac amsugno'r dehongliadau cerddorol hyn o fyd natur.   Gallwch ddewis o blith pedair cyfres: Oriel o Gwmpas, Synau Diflanedig, 5 Ffordd at Lesiant a Sŵn y Sir. Gallwch ddod o hyd iddynt i gyd ar ein tudalen Podlediad.

Cat on a Chair 1981

Roeddem yn falch iawn o fod yn dangos gwaith yr arlunydd Cymreig amlwg Charles Burton yn ôl ym mis Mehefin. Gyda chymorth y curadur Peter Wakelin, roedd Painting Still yn edrych yn ôl ar gatalog amrywiol dros ben Charles, sy’n rhychwantu 60 mlynedd. O gael y gwaith ym ‘mlwch gwyn’ yr oriel, roedd yn ddiddorol gweld y gwaith yn y cyd-destun hwnnw ac edmygu ei natur oesol. Diolch yn fawr unwaith eto i Charles Burton, Peter Wakelin ac Oriel Martin Tinney.    

Roedd 2021 yn nodi pen-blwydd Oriel Myrddin yn 30 oed. Ar ôl 17 mis anodd iawn lle caewyd a gohiriwyd nifer o orielau ac arddangosfeydd ledled y wlad - roeddem am gynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i'n rhaglen arddangos arferol a rhoi rhywbeth yn ôl i'n cymuned anhygoel o artistiaid sydd wedi cefnogi'r oriel dros y blynyddoedd.

logo gan Tom Frost

Cawsom nifer syfrdanol o gyflwyniadau gan bobl greadigol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn amrywio o artistiaid amatur i rai o oreuon Cymru. Roeddem wrth ein boddau gyda’r ymateb ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gyflwynodd waith.

 

Wrth i'r hydref agosáu, pa ffordd well i ddathlu na thrwy dynnu sylw at fflora a ffawna anhygoel Cymru.  Daeth U N L EA R N E D â thri gwerthwr blodau o Gymru ynghyd: Leigh Chappell, Melissa Ashley o Twisted Sisters Floral Design a Donna Bowen-Heath o Pheasant Botanica a drodd yr holl syniadau rhagdybiedig am flodeuwriaeth ar ei ben! Fe wnaethant drawsnewid gofod ein horiel yn wylltir trawiadol yng Nghymru ac ysbrydoli ymwelwyr o bob man i ailfeddwl am y clawdd neu’r gwrych di-nod. Diolch i Abby Poulson am dynnu lluniau arbennig o'r sioe.

Wrth i ni ysgrifennu hwn, mae ein harddangosfa G A E A F The Welsh House yn dal i fod ymlaen ac yn agored i'r cyhoedd. Byddwn ar agor hyd at bump o'r gloch ar Noswyl Nadolig ar gyfer unrhyw un sydd am brynu anrheg berffaith munud olaf! Mae wedi bod yn dipyn o hwyl eleni i gydweithio â Dorian Bowen o The Welsh House.   Rydym wedi edmygu esthetig ac ethos Dorian o ran dylunio mewnol ers tro ac roeddem wrth ein boddau pan gytunodd i ddod yn gynharach yn y flwyddyn, i guradu'r sioe wych hon. Yn yr un modd â cheisio trefnu unrhyw beth yn ystod Covid, roedd yna ychydig o amheuon ynghylch a fyddai'r sioe yn gallu mynd rhagddi ai peidio ond rydyn ni mor falch ei bod wedi mynd yn ei blaen.  Mae ein technegydd oriel Christian Brown wedi gwneud gwaith arwrol o adeiladu ein Tŷ, nid ydym eisiau ei weld yn mynd. Diolch hefyd i Ashley Davies am adael i ni ysbeilio ei gelc o ddalenni rhychog - caredig iawn! Diolch enfawr i Heather Birnie unwaith yn rhagor am dynnu lluniau gwych o'r arddangosfa i ni.

 Diolch hefyd i'r holl wneuthurwyr sydd wedi bod yn rhan o’r arddangosfa - mae eich cefnogaeth yn golygu pob dim i ni.  

Sarah Jerath // Llio James // Rosie Farey // Megan Ivy Griffiths // Layla Robinson // Heather Hancock // David White // Lilly Hedley // Terri Lee-Howard (M a g n I f I c e n t M U D) // Every Story Ceramics // Anja Dunk // Claudia Rankin

 Dyna'r cyfan sydd gennyn ni am eleni…

 

Edrych i’r dyfodol

Tir Cof

Gareth Hugh Davies

8 Ionawr - 12 Mawrth

Rydyn ni'n dechrau'r flwyddyn gyda'r arlunydd tirwedd o Sir Gaerfyrddin, Gareth Hugh Davies a'i arddangosfa unigol Tir Cof. Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n dangos tirluniau atmosfferig a stormus Gareth.

Mae'r gyfres hon o baentiadau a lluniadau yn seiliedig ar waith a wnaed ar leoliad ac yn y stiwdio yn ystod cyfyngiadau diweddar. Mae popeth yn dechrau gyda thynnu llun, a chofio. Ymateb i dirlun penodol y maent i ddechrau, ond gallant newid yn sgil ailweithio ac ail-archwilio parhaus i'r fath raddau fel nad yw pryderon topograffig yn amlwg iawn, ac mae ymateb greddfol mwy personol yn datblygu.

Dywedodd Gareth am ei waith:

‘Dywedodd Magritte hyn am ei gyfres o baentiadau ‘Empire of Light’: ‘The landscape suggests night and the skyscape day. This evocation of night and day seems to me to have the power to surprise and delight us. I call this power: poetry’

Credaf fod y syniad hwn o ‘farddoniaeth’ wedi tanategu fy ymagwedd ddiweddar tuag at baentio, y syniad y gellir awgrymu’r anghyffwrdd trwy gyfosod ffurf, lliw a llinell. Syniad o dirlun, wedi’i ailddychmygu a’i gofio i gyfleu teimlad a synnwyr o ofod seicolegol.’ 

Ochr yn ochr ag arddangosfa Gareth mae gennym ein ‘Gwneuthurwr dan sylw ’ - artist o Ynys Skye, Helena Emmans yn ein siop oriel. Pwrpas ein ‘Gwneuthurwr dan sylw ’ yw arddangos artist neu grefftwr, y mae ei waith yn cyfeirio at y brif arddangosfa bresennol neu’n ychwanegu ati. Mae gwaith Helena yn cynnig dehongliad gwneuthurwr ar y cysyniad o gelfyddyd tirlun a'r ffordd rydyn ni'n dewis ei ddarlunio.  Trwy ei llwyau arian wedi'u crefftio'n goeth, nod gwaith Helena yw portreadu ymdeimlad Skye trwy ymateb i'r tirlun newidiol a'i liwiau, gan wylio'r dyddiau a'r tymhorau'n treiglo. Mae rhythmau, llanw, tymhorau a thraethlinau yn amlwg yn ei gwaith. Mae bod o fewn y tirlun, teimlo'r elfennau wrth weld yr amgylchedd yn newid, yn cynhyrchu ymdeimlad yr eiliad honno yn ei holl waith.


Siop Ar-lein Newydd

Mae'r pandemig wedi dysgu un peth i ni (mae'r rhestr yn anhygoel o hir mewn gwirionedd!) sef bod angen i'r gwaith gan y gwneuthurwyr yr ydym yn ei gefnogi, ac yr ydym yn cymryd cymaint o ofal wrth ei ddewis, fod ar gael y tu allan i oriau arferol yr oriel. Ers y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, daeth yn fwyfwy amlwg bod angen gofod manwerthu ar-lein ar gyfer ein gwneuthurwyr ac mae'n bleser gennym ddweud y bydd ein siop ar-lein yn mynd yn fyw o 10 Ionawr 2022.   Hwre!!

The Last Valley

Huw Alden Davies

19 Mawrth – 14 Mai 2022

Wedi'i osod ar lethr y Mynydd Mawr yng Nghwm Gwendraeth, mae arddangosfa amlgyfrwng Huw Alden Davies, sydd ar y gweill, yn tynnu ein sylw at hen bentref glofaol Y Tymbl.  Wrth archwilio cysyniadau fel hunaniaeth ddiwylliannol, ymdeimlad o le, hiraeth, a phenderfyniaeth dechnolegol, mae ‘The Last Valley’, sy’n cyfeirio at ei safle daearyddol, fel y cwm olaf mewn cyfres o un ar hugain o gymoedd a gofnodwyd, a’r olaf cyn y môr; yn dwyn ynghyd am y tro cyntaf, benllanw gweithiau a grëwyd dros bedair blynedd ar ddeg, wedi'u cysegru i gymuned a oedd ar un adeg yn un o'r canolfannau cynhyrchu glo pwysicaf yn y byd.

Gorymdaith Cragen Beca

Kathryn Campbell Dodd

Dydd Sul 1 Mai 2022

Mae Cragen Beca yn seiliedig ar gymeriad chwedlonol Rebecca a’i 'Merched' yn eu hymgais i weithredu yn ystod Terfysgoedd Rebecca ganol y 19eg ganrif (1839-43) yn Sir Gaerfyrddin. Roedd hwn yn gyfnod o wrthryfela beiddgar a blaengar, lle roedd dynion wedi gwisgo fel menywod yn ymosod ar gatiau tyrpeg Gorllewin Cymru ac yn eu chwalu i gyfleu eu hanfodlonrwydd.

Mewn cydweithrediad rhwng Oriel Myrddin a'r artist Kathryn Campbell Dodd, bydd gorymdaith Cragen Beca yn cael ei chynnal ddydd Sul 1 Mai 2022.   Bydd yn dechrau y tu allan i Oriel Myrddin ac yn symud ymlaen ar droed ar hyd Heol y Brenin i'r Clos Mawr. Bydd hwn yn gyfle gwych i'r gymuned ymuno, bod yn greadigol a gwneud rhywfaint o sŵn!

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael cyn hir.

Ailddatblygu Cyfalaf

Mae 2022 yn nodi dechrau ein gwaith ailddatblygu cyfalaf. Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn ynghylch dyfodol Oriel Myrddin.

Bydd yr oriel ar gau o ganol y flwyddyn tra bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi cyfle cyffrous arall i ni lle byddwn yn creu oriel wib yn y dref er mwyn i chi allu dod i'n gweld a chymryd rhan yn ein rhaglen ddigwyddiadau! Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein prosiect ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n Cyfnodolyn.

 
Previous
Previous

Hwyl am y tro!

Next
Next

Gwobr Turner