HUNK WILLIAMS
Mae Hunk Williams yn artist tecstilau Cymreig y mae ei waith yn cofleidio chwarëusrwydd, amherffeithrwydd ac unigolrwydd. Ar gyfer y Llwybr Crefft mae wedi creu cwilt clytwaith mawr sy'n casglu darnau o stori at ei gilydd, gan bwytho motiffau o Hansel a Gretel gan Clive Hicks-Jenkins ochr yn ochr â geiriau o lên gwerin Cymru. Mae'r tŷ torth sinsir a'r tiwlipau o chwedl Clive yn ymddangos gydag enwau fel Bwbach, goblyn sy’n fyw yn y cartref; Gwyllion, ysbrydion mynydd neu wrachod ; a Canwyll Corff, y canhwyllau corff y dywedir eu bod yn fflachio ar hyd hen lwybrau i'r bedd.
Wedi'i wneud o ffabrigau wedi'u hadfer a thecstilau ‘vintage’, mae'r cwilt yn dathlu lliw, gwead a dychymyg beiddgar tra hefyd yn cario teimlad o lên gwerin. Fel llawer o waith Hunk, mae'n gwrthsefyll unffurfiaeth masgynhyrchu, yn hytrach yn ymfalchïo mewn cymeriad, hiwmor ac ysbryd y llaw. Mae'r cwilt yn dwyn ynghyd ffabrig a stori mewn ffordd sy'n chwareus, chwilfrydig a chofiadwy.