Digwyddiadau

Credyd llun: Jason Thomas

SOWND: Ffilm Fer
Jul
29
to 22 Nov

SOWND: Ffilm Fer

Cymru yn Fenis / Wales in Venice 

Sownd: Manon Awst + Dylan Huw

9 Mai – 22 Tachwedd 2026

Istituto Santa Maria della Pietà, Fenis

Mae’r ffilm fer hon yn cyflwyno Sownd, y prosiect sy’n cynrychioli Cymru yn 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia 2026, un o ddigwyddiadau celf gyfoes bwysicaf y byd.

Mae Sownd yn osodwaith ymdrochol sy’n archwilio cysylltiadau rhwng tirwedd, iaith a deunydd. Mae’r artistiaid yn dod ag elfennau naturiol o ogledd Cymru a lagŵn Fenis ynghyd, a’u cyfuno â sain, cerflunwaith a thestun i greu un amgylchedd rhyng-gysylltiedig, wedi’i siapio gan yr adeilad hanesyddol. Ochr yn ochr â’r arddangosfa yn Fenis, mae digwyddiadau byw yng Nghymru yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi’r tirweddau y tu ôl i’r gwaith yn uniongyrchol.

View Event →
Gwneuthurwr Dan Sylw: Buddug
Sept
5
to 31 Oct

Gwneuthurwr Dan Sylw: Buddug

I gyd-fynd ag arddangosfa hydref Oriel Myrddin, Bywyd Llonydd / Still Life, rydym yn croesawu Buddug fel ein gwneuthurwr dan sylw.

Mae Buddug yn ddylunydd wneuthurwr, yn wreiddiol o Eryri yng Ngogledd Cymru ac yn byw bellach yng Nghaerdydd gyda'i theulu. Mae ei gwaith wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ei magwraeth Gymreig, gan dynnu ysbrydoliaeth o lenyddiaeth, tirwedd a diwylliant. Mae'r dylanwadau hyn yn siapio'r straeon y mae'n eu hintegreiddio i'w gemwaith a'i gwrthrychau. 

Mae darlunio a llawysgrifen wrth galon gwaith Buddug. Wedi'i hysbrydoli gan lythrennu â llaw hen ffasiwn mewn pen ac inc, mae hi'n archwilio rhinweddau addurnol geiriau a delweddau, a'r straeon a'r ystyron y gallant eu cario. 

Ar gyfer Bywyd Llonydd / Still Life, rydyn ni'n eich gwahodd i edrych yn fanwl ar fanylion, patrymau a geiriau yng ngwaith Buddug, a darganfod y straeon sydd wedi'u plethu i bob darn. 

Bydd gwaith Buddug ar gael i’w weld a’i brynu yn siop ein horiel ochr yn ochr ag agoriad ein harddangosfa newydd.

Darganfod mwy:

Gwefan: www.buddug.com‍ ‍

Instagram: @buddug_studio

View Event →
Bywyd Llonydd / Still Life
Sept
5
to 31 Oct

Bywyd Llonydd / Still Life

Bywyd Llonydd / Still Life 

Rhan o CELF, Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru

5 Medi - 31 Hydref

Mae Bywyd Llonydd / Still Life yn arddangosfa hwyliog a lliwgar sy’n dod â phaentiadau o’r Casgliad Cenedlaethol ynghyd â gweithiau celf newydd sbon a gomisiynwyd gan wyth o artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes. 

Mae pob artist wedi cael paentiad o’r Casgliad Cenedlaethol ac wedi cael cais i greu gwaith celf 3D wedi’i ysbrydoli ganddo. Maent wedi defnyddio lliwiau, siapiau, gweadeddau, patrymau neu ddeunyddiau o’r gwaith celf gwreiddiol i greu rhywbeth newydd. 

Mae’r arddangosfa’n ein hannog i edrych yn fanwl, sylwi ar y cysylltiadau rhwng y gweithiau celf, a darganfod sut mae artistiaid yn troi syniadau’n rhywbeth cwbl newydd.

Mynediad am ddim - croeso i bawb

View Event →
Gweithdy Serameg Adeiladu â Llaw i Oedolion: gyda Justine Allison
Sept
17
to 29 Oct

Gweithdy Serameg Adeiladu â Llaw i Oedolion: gyda Justine Allison

Darganfyddwch lawenydd gwneud gyda chlai yn y cwrs ymarferol ysbrydoledig hwn, sy'n berffaith i ddechreuwyr ac i'r rhai sy'n dychwelyd i gerameg.

Byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o'r ffordd wrth i chi feithrin hyder a datblygu eich sgiliau mewn amgylchedd hamddenol a chreadigol.

Arweinir y cwrs gan Justine Allison (@justineallisonceramics), artist cerameg o Orllewin Cymru gyda dros 30 mlynedd o brofiad proffesiynol, sydd wedi ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Y Lle Celf yn ddiweddar fel rhan o eisteddfod Garreg Las 2026.

View Event →
Clwb Artistiaid Ifanc
Nov
7
to 5 Dec

Clwb Artistiaid Ifanc

Clwb celf creadigol, misol.

I bobl ifanc oed 11 – 14.

Pob dydd Sadwrn cyntaf y mis.

10:30-13:00

£5 y person.

Mae Clwb Artistiaid Ifanc yn cwrdd yn stiwdio Oriel Myrddin i archwilio gwahanol ffurfiau celfyddydol a ffyrdd o wneud mewn gofod cefnogol a chreadigol. Hydref yma, byddwn yn ymateb i'r bywyd llonydd. Mae bywyd llonydd yn fath o gelf sy'n canolbwyntio ar wrthrychau bob dydd, fel blodau, ffrwythau, bwyd neu eitemau cartref. Mae artistiaid wedi bod yn creu bywyd llonydd ers cannoedd o flynyddoedd, gan ddefnyddio gwrthrychau cyffredin i archwilio lliw, golau, siâp ac ystyr.

Darperir yr holl ddeunyddiau.

Mae archebu lle yn hanfodol

‍Ein nod yw gwneud y profiad hwn mor gynhwysol a hygyrch â phosibl. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu i rannu unrhyw anghenion mynediad, cysylltwch â ni yn engagement@orielmyrddin.com

View Event →

Gweithdy Argraffu Papur Wal Deuddydd (gyda Justyna Medon)
Oct
24
to 25 Oct

Gweithdy Argraffu Papur Wal Deuddydd (gyda Justyna Medon)

Mae'r gweithdy ymarferol deuddydd hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i sylfeini dylunio papur wal wedi'i argraffu â llaw gan ddefnyddio blociau leino, stensiliau papur a sgriniau sidan. 

Mae'r cwrs yn cyfuno technegau lefel mynediad hygyrch â phrosesau stiwdio broffesiynol, gan alluogi cyfranogwyr i ddylunio ac argraffu paneli papur wal bwrpasol wedi'u hysbrydoli gan ddyluniad patrwm ac arwyneb. Bydd cyfranogwyr yn datblygu eu motiffau eu hunain, yn dysgu sut mae patrymau ailadroddus yn gweithio, ac yn creu panel papur wal brintiedig unigryw i'w gymryd adref. 

View Event →
Ymatebion i SOWND: Gwau Geiriau gyda Elinor Gwynn
Aug
29

Ymatebion i SOWND: Gwau Geiriau gyda Elinor Gwynn

Dewch i fwynhau bore braf yng nghwmni'r 'sgwennwraig a'r amgylcheddwraig Elinor Gwynn, lle byddwn yn plethu geiriau a delweddau sy'n perthyn i dirwedd  de-orllewin Cymru, ac yn dysgu am grefft hynafol cynganeddu.  Gyda chyfraniad arbennig gan y Prifardd Hywel Griffiths.

Cymru yn Fenis / Wales in Venice  

Sownd: Manon Awst + Dylan Huw 

View Event →
Agored OM 2026
Jun
13
to 29 Aug

Agored OM 2026

Croeso i OM Agored 2026, arddangosfa sy’n dathlu ymarfer creadigol cyfoes ledled Cymru. 

 Mae OM Agored yn dod â artistiaid ynghyd sy’n gweithio ar draws ystod eang o gyfryngau, disgyblaethau a dulliau, gan gynnig llwyfan i ymarferwyr newydd a sefydledig. Mae’r arddangosfa yn adlewyrchu cyfoeth ymarfer artistig cyfredol, gan gyflwyno gweithiau sy’n herio, yn swyno ac yn codi cwestiynau.

View Event →
Gweithdy Teulu: Crwydro/Wanderings 
May
27

Gweithdy Teulu: Crwydro/Wanderings 

Look, think create! Join our team for a gallery tour of Crwydro / Wanderings and have a go at building your own twig loom in a fun, creative session responding to the exhibition. 

 

This workshop is suitable for families, we encourage you to think of ‘family’ in the broadest sense – bring along your chosen family, friends, neighbours and anyone you think would enjoy experimenting and playing with materials. 

View Event →
‘Serendipitous Moments’: Mewn Sgwrs | Laura Wainwright a Carwyn Graves (Dan arweiniad Kim Norton)
May
23

‘Serendipitous Moments’: Mewn Sgwrs | Laura Wainwright a Carwyn Graves (Dan arweiniad Kim Norton)

Ymunwch â'r bardd Laura Wainwright a'r awdur Carwyn Graves i drafod eu harsylwadau personol o dir, lle a'r gair ysgrifenedig mewn perthynas â'u lleoliad, eu pobl a'u iaith. 

A gweithio gyda'r eiliadau serendipitous sy'n digwydd pan mae eich sylw yn ehangu allan. 

Wedi'i gadeirio gan Kim Norton, un o'r artistiaid sy'n arddangos yn  Crywdro/Wanderings: Detours and Digressions. 

View Event →
SGWRS RHWNG Kim Norton and Alan Bowring
Apr
11

SGWRS RHWNG Kim Norton and Alan Bowring

Gan ddefnyddio gwaith Kim Norton ar Goedwig Coed Craig Ruperra, safle collddail sy’n adfer rhwng Caerffili, Caerdydd a Chasnewydd, fel man cychwyn, Bydd Kim ac Alan hefyd yn trafod rôl Alan yn Geoparc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (a elwid gynt y Brecon Beacons) yn Ne Cymru.

View Event →
Cymer Llinell am Dro: Gweithdy Pasg gyda Mary Sikkel a Chi Klee
Apr
6

Cymer Llinell am Dro: Gweithdy Pasg gyda Mary Sikkel a Chi Klee

Dewch mewn i'r oriel ddydd Llun y Pasg hwn am weithdy darlunio chwareus wedi'i ysbrydoli gan ein harddangosfa bresennol 'Crwydro / Wanderings'.

Cymer Llinell am Dro!

Creu llyfr consertina eich hun, archwilio gwneud marciau, a chyfarfod â Chi Klee, gallwch ei gymryd am dro ar draws eich tudalennau!

📅 Dydd Llun y Pasg
🕜 1:30 – 4yp
🎨 Croeso i bawb ddod i mewn, pob oedran
(Rhaid i rai dan 13 ddod gydag oedolyn)

Ac ie… bydd mini eggs ar gael 🐰🍫

View Event →
Crwydro / Wanderings Kim Norton a Jane Ponsford
Mar
28
to 6 Jun

Crwydro / Wanderings Kim Norton a Jane Ponsford

Mae Kim Norton a Jane yn gweithio gyda deunyddiau gwahanol, clai a phapur, ond maen nhw’n rhannu hoffter o dirwedd, o greu, ac o weithio’n agos gyda deunyddiau. Mae’r ddwy artist yn treulio amser yn yr awyr agored yn crynhoi, casglu, ac yn ymateb i’w hamgylchedd, gan ganiatáu i leoliad siapio eu gwaith.

View Event →
Gweithdy Hanner TYMOR PYPEDAU CYSGOD
Feb
18

Gweithdy Hanner TYMOR PYPEDAU CYSGOD

Diwrnod creadigol cyffrous yn archwilio’r arddangosfa gyda’n tîm addysg. Byddwch yn ystyried pa themâu a chymeriadau sy’n gwneud cynhwysion chwedlau tylwyth teg, ac yna’n creu eich pypedau cysgod a theatr o bapur a cherdyn er mwyn adrodd eich stori dylwyth teg eich hun.

View Event →
GWEITHDY THEATR YMARFEROL  I BLANT DAN 5 oed a’u teuluoedd
Jan
31

GWEITHDY THEATR YMARFEROL I BLANT DAN 5 oed a’u teuluoedd

Mae Dwrgi yn brofiad theatr dwyieithog, aml-synhwyraidd sy’n berffaith i blant o dan 5 oed, ond mae croeso i bawb!

Mae’r cynhyrchiad hwn yn canolbwyntio ar storïa, iaith a dad-ddofi ein hunain, ac mae’n plethu’r Gymraeg a’r Saesneg yn naturiol. Mae’n berffaith i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg ac unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg.

View Event →
GWRACH | WITCH                                          Clive Hicks-Jenkins                                  A Fairy Tale Retold
Nov
22
to 14 Mar

GWRACH | WITCH Clive Hicks-Jenkins A Fairy Tale Retold

Gwrach | Witch | A Fairy Tale Retold by Clive Hicks-Jenkins yn eich gwahodd i weledigaeth hudolus un o artistiaid mwyaf uchel ei barch yng Nghymru, y mae ei gwaith yn dod â dyfnder newydd i stori dylwyth teg annwyl Hansel & Gretel. Yn agor yn yr ail hanner 2025, mae'r arddangosfa swynol hon yn creu dehongliad hudolus, gan gyfuno llên gwerin Cymru â chelfyddwaith crefftus â llaw i arwain ymwelwyr drwy dirwedd o ddirgelwch a hud.

View Event →