Cymru yn Fenis 2026

Prosiect dan arweiniad Manon Awst a Dylan Huw wedi'i ddewis i gynrychioli Cymru yn Fenis 2026 mewn cydweithrediad ag Oriel Davies ac Oriel Myrddin.

Rydym yn hynod falch o weithio mewn partneriaeth â'r artist Manon Awst a'r awdur Dylan Huw, ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn Oriel Davies, ar y prosiect Cymru yn Fenis 2026. Wrth i ni baratoi i ailagor ar ôl ailddatblygiad mawr, mae hwn yn foment ystyrlon i ni ac yn gyfle i gyfrannu at gyflwyniad cydweithredol dan arweiniad artistiaid sy'n adlewyrchu ehangder ac uchelgais ymarfer cyfoes yng Nghymru.

Darllenwch ymlaen am ddatganiad i'r wasg lawn y prosiect.

Manon Awst + Dylan Huw | Llun: Dewi Tannatt Lloyd

Mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi mai Manon Awst a Dylan Huw fydd yn arwain prosiect newydd a fydd yn cael ei gyflwyno i gynrychioli Cymru yn Fenis fel digwyddiad cyfochrog yn y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia.  Mae'r cydweithrediad cyffrous yma yn bartneriaeth rhwng y ddau artist a'u cydweithwyr, Oriel Davies yn y Drenewydd ac Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin.

Sefydlwyd La Biennale di Venezia ym 1895, ac mae bellach yn un o'r sefydliadau diwylliannol enwocaf a mwyaf mawreddog yn y byd. Mae'n trefnu arddangosfa gelf ryngwladol bob dwy flynedd, a bydd rhifyn 2026 yn rhedeg o ddydd Sadwrn 9 Mai i ddydd Sul 22 Tachwedd 2026.

Mae cerfluniau a gweithiau celf safle-benodol Manon Awst, sy’n byw yng Nghaernarfon, wedi'u plethu â naratifau ecolegol, sy'n canolbwyntio'n benodol ar y tensiwn rhwng strwythurau dynol a rhai mwy na dynol. Mae'r ffordd y mae deunyddiau'n trawsnewid lleoliadau a chymunedau yn rhan blaenllaw o’i hymchwil greadigol. 

Yn awdur, cynullydd ac ymarferydd cydweithredol, mae gwaith Dylan Huw yn cwmpasu prosiectau cyhoeddi a churadurol, traethodau a beirniadaeth gelf, a chydweithio hirdymor ag artistiaid. Mae'n cael ei arwain gan fethodolegau rhyngddisgyblaethol, traws-ieithog a safle-benodol, gan drin iaith ac ymchwil fel cyfryngau clyweledol.

Wedi'i wreiddio mewn traddodiadau celfyddydol 'byw' Cymreig, gan gynnwys y gynghanedd a pherfformio safle-benodol, mae'r cydweithrediad yn bwriadu gwahodd cynulleidfaoedd i ofod deinamig, esblygol o gyfnewid artistig, tra'n ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd, cynhwysiant a democratiaeth ddiwylliannol.

Wrth glywed y newyddion fod y prosiect wedi ei ddewis ar gyfer Cymru yn Fenis, dywedodd Manon Awst,

"Roeddwn i'n dal i fod yn fyfyriwr Pensaernïaeth yn ystod y Cymru yn Fenis gyntaf yn 2003, ond fe wnaeth y sioe honno fy ysbrydoli i i feddwl y tu hwnt i ffiniau disgyblaethol a rhoddodd yr hyder i mi weld fy hun fel artist Cymreig a rhyngwladol. Mae'n freuddwyd wyllt cael fy newis ar gyfer Cymru yn Fenis, ac rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda Dylan, Oriel Davies ac Oriel Myrddin ar y prosiect cydweithredol hwn sy'n ceisio sbarduno deialog ar draws tirweddau amrywiol Cymru."

Meddai Dylan Huw,

“Mae hwn yn gyfle swreal a chwbl gyffrous, a fedra i ddim aros i blymio i mewn i weithio gyda Manon, y cydweithwyr eraill ar y prosiect, a'r tîm Cymru-gyfan yma. Ar ddechrau'r syniad, roeddem yn gwybod y byddem am iddo gynnwys llawer o agweddau a safbwyntiau ar lawr gwlad yng Nghymru ar bob cam o'i ddatblygiad, yn unol â'r ethos o estyn gwahoddiad, a’r agwedd rhyngddisgyblaethol sy'n gynhenid i'n ddau o'n gwaith – tra'n adeiladu ar etifeddiaeth ddwfn Cymru yn Fenis ar gyfer cenedlaethau o ymarferwyr a chynulleidfaoedd yng Nghymru.”

Meddai Steffan Jones-Hughes, Cyfarwyddwr Oriel Davies,

"Mae Oriel Davies ac Oriel Myrddin yn falch iawn o ddod â'r prosiect hwn i Biennale Fenis. Bydd yn gyflwyniad sy'n cysylltu Cymru a Fenis mewn ffordd unigryw, trwy ein hiaith, ein diwylliant a'n gofod daearyddol ac edrychwn ymlaen at rannu mwy am natur y gwaith wrth i ni agosáu at ddyddiad yr arddangosfa.

"Rwy'n falch iawn o fod yn cefnogi Manon a Dylan wrth guradu'r arddangosfa yn Fenis a lleoliadau yma yng Nghymru ac rydym am i'r arddangosfa fod yn wirioneddol hygyrch i gynulleidfaoedd celf rhyngwladol a chymunedau lleol yma yng Nghymru. Mae Manon Awst yn un o'n hartistiaid mwyaf diddorol ac wrth weithio gyda Dylan Huw a'u cydweithwyr, rydym yn benderfynol o wneud yr arddangosfa hon yn wirioneddol hael yn ei hymgysylltiad ag artistiaid, gwyddonwyr, ecolegwyr a chynulleidfaoedd.

 Meddai Catherine Spring, Cyfarwyddwr Oriel Myrddin,

"Rwy'n falch iawn o fod yn cydweithio gyda Manon, Dylan, ac Oriel Davies. Wrth i Oriel Myrddin baratoi i ailagor yn dilyn ailddatblygiad mawr, mae bod yn rhan o Cymru yn Fenis yn nodi pennod newydd gyffrous. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi gweledigaeth greadigol a chyfeiriad y cyflwyniad hwn gyda'i ymagwedd amlieithog ac amlddisgyblaethol."

Ychwanegodd Catryn Ramasut, Cadeirydd y Panel Dethol a Chyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru,

"Llongyfarchiadau mawr i Manon, Dylan ac Oriel Davies ac Oriel Myrddin am gael eu dewis ar gyfer Cymru yn Fenis 2026. Diolch i'r panel dethol a ddaeth â phrofiadau a safbwyntiau unigryw i'r bwrdd trwy eu gweledigaeth guradurol, eu dealltwriaeth o ymarfer cyfoes a’u gwybodaeth ddofn o'r hyn sy'n gwneud i waith wirioneddol atseinio ar lwyfan byd-eang.

"Ymhlith nifer o gynigion cryf iawn, roedd y cyflwyniad hwn yn sefyll allan ar sail ei archwiliad artistig o dirwedd, iaith a thraddodiadau Cymreig a oedd yn llwyr argyhoeddi, ynghyd â sylfeini technegol a gwyddonol cryf a rhwydwaith helaeth o gydweithwyr yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Roedd y panel hefyd yn gwerthfawrogi’r modd y mae’r prosiect yn cydweddu â thema guradurol Biennale Fenis In Minor Keys gan Koyo Kouoh. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r tîm a rhannu eu creadigrwydd yn Fenis ac yma yng Nghymru."

Mae Cymru yn Fenis yn cael ei gomisiynu a'i reoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Next
Next

Llinynnau Perthyn: Gweithdai Cymunedol