Llinynnau Perthyn: Gweithdai Cymunedol

To photograph: it is to put on the same line of sight the head, the eye and the heart.”

Henri Cartier-Bresson

Ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Mai gweithiais gyda'r ffotograffydd Mohamed Hassan i gyflwyno gweithdai ffotograffiaeth i gymuned Sir Gaerfyrddin yn Criwdem Celf yng Nghaerfyrddin, man newydd dan arweiniad artistiaid ar Stryd y Brenin a The Creative Space, man celfyddydau cymunedol amlbwrpas wedi'i leoli yn Noc y Gogledd, Llanelli. Ers mis Mawrth, mae Mohamed wedi bod yn creu gwaith newydd ar gyfer Oriel Myrddin drwy brosiect o'r enw Llinynnau Perthyn, sy'n edrych ar natur gydblethu hunaniaeth a pherthyn yng Nghymru gyfoes. Bydd canlyniadau terfynol y prosiect yn cael eu harddangos yn barhaol yn yr oriel newydd pan fydd yn ailagor yn yr Hydref. Yn y gweithdai, cafodd Mohamed gyfle i archwilio'r syniadau hyn mewn amgylchedd cydweithredol, gydag unigolion o Sir Gaerfyrddin, a gyda'n gilydd gwnaethom rannu'r hyn a ddysgon am adrodd straeon mewn ffotograffiaeth i ddyfnhau a chysylltu â naratifau gweledol.

Llun: Detholiad o  ffotograffau Mohamed Hassan wedi'u tynnu gan Abby Poulson

Cyfranogwyr yn Creative Space, Llanelli | Ffotograffiaeth gan Abby Poulson

Roedd yn ysbrydoledig gweld ble roedd y cyfranogwyr ar eu teithiau ffotograffiaeth. Roedd rhai ar ddechrau eu taith ac yn dal i ddysgu defnyddio camera, tra bo eraill wedi cymryd rhan mewn dosbarthiadau ffotograffiaeth yn y gorffennol ac yn cwestiynu a ddylid parhau â'r daith drwy addysg uwch. Mae rhai yn mynychu clybiau ffotograffau yn rheolaidd, neu'n selogion ffotograffiaeth ac eraill yn artistiaid sy'n defnyddio ffotograffiaeth ochr yn ochr â'u prif gyfrwng fel offeryn ar gyfer dogfennu a recordio. Roedd gan un cyfranogwr ddiddordeb mewn ffyrdd y mae ffotograffiaeth yn cael ei defnyddio mewn lleoliadau mwy gwledig yng Nghymru, mewn cyferbyniad â'u profiad o dynnu lluniau a thyfu i fyny yn Hong Kong.

Ar gyfer un o weithgareddau'r gweithdy, gofynnwyd i'r cyfranogwyr ddewis llun o blith detholiad o ffotograffau Mohamed ac yna dewis lluniau pellach i greu dilyniant ac adrodd stori. I rai cyfranogwyr, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw feddwl am sut y gall lluniau gysylltu mewn cyfres yn hytrach nag ar eu pen eu hunain ac mae'n ymarfer gwych ar gyfer meddwl am y ffordd y mae lluniau yn cael eu dewis ar gyfer llyfrau neu arddangosfeydd. Roedd gallu chwarae a golygu gwaith artist arall wedi helpu'r cyfranogwyr i fwrw golwg ar themâu, diddordebau a ffyrdd o weithio y maent yn cael eu denu atynt yn eu hymarfer eu hunain hefyd, a llwybrau newydd posibl y gallent eu harchwilio.

Mae cerdded gyda chamera yn rhywbeth y mae ffotograffydd yn aml yn ei wneud ar ei ben ei hun, ond mae mynd ar daith gerdded ffotograffau yn ffordd fwy cymunedol o dynnu lluniau, a gall rhannu taith gerdded gyda grŵp o ffotograffwyr fod yn brofiad gwych i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd. Yn y bore roeddem wedi dysgu am ffotograffwyr, chwarae gyda ffotograffau dilyniannol, cael trafodaethau grŵp, edrych ar lyfrau ffotograffau, a siarad am brosiect Mohamed, Llinynnau Perthyn. Yn y prynhawn, aethom wedyn ar daith gerdded ffotograffau gyda'r dasg o greu diptych, dau lun ochr yn ochr sy'n dod at ei gilydd i greu gwaith unigol, gan gynnwys llun portread, a llun o dirwedd/lle. Gellid rhoi cynnig ar y dasg hon mewn unrhyw ffordd.

Ffotograff o'r cyfranogwr a dynnwyd gan Tim Chapman

Yn ystod ein taith gerdded ffotograffau yn Llanelli yn Noc y Gogledd, cefais fy stopio gan ŵr bonheddig a ofynnodd beth oeddem yn ei wneud, gan ddweud  bod 11 o ffotograffwyr ger y traeth yn symud o gwmpas yn ofalus iawn, yn edrych trwy eu camerâu. Dywedais ein bod ni ar daith gerdded ffotograffiaeth ac wedi bod yn gwneud gweithdy ffotograffiaeth drwy'r dydd yn the Creative Space, a gofynnodd pam ein bod ni'n ei wneud yn Llanelli, onid oes llefydd gwell? Pam nad ydym wedi mynd i Lansteffan neu'r Gŵyr? Fy ateb oedd 'Wel, mae'n hyfryd yma hefyd.' Ac roedd Caerfyrddin a Llanelli yn edrych yn anhygoel, yn enwedig gyda'r heulwen, ac roedd llond lle o bobl yn mwynhau. Roedd hyn yn cryfhau pwysigrwydd cael y mathau hyn o weithdai yn lleol lle gallai pobl leol ymuno ac ymgysylltu â'u lle. Roedd yn amlwg fod cyfranogwyr yn y gweithdy yn poeni am hyn, ac roedd eu ffotograffiaeth a'u harferion creadigol yn cysylltu'n agos â'u hamgylchoedd, hanesion personol a chyd-destunau lleoedd.

Roedd y ddau weithdy ffotograffiaeth yn hwylus iawn. Roedd yn ysbrydoledig clywed Mohamed yn siarad am ei brofiad o ddefnyddio ffotograffiaeth fel offeryn i ddarganfod, deall a chysylltu â Chymru, a gweld y llu o luniau a ffug lyfrau y mae wedi'u cynhyrchu yn y daith barhaus honno o ddatblygu ymarfer ffotograffig. Yn y gweithgareddau rydym yn cymryd rhan mewn beirniadaeth grŵp, sy'n ffordd o ddysgu gyda chyfoedion trwy gyflwyno gwaith, gwrando ar feirniadaeth a chynnig adborth adeiladol i eraill. Cawsom hefyd weld ffug llyfr newydd Mohamed, Our Hidden Room sy'n bwrw golwg ar fywyd ei dad, o blentyndod mewn cartref amddifad Alexandrian i'w gyfnod ym myddin yr Aifft, a sut daeth ffotograffiaeth yn ddihangfa yn wyneb salwch meddwl. Mae'r llyfr hwn bellach wedi'i gyhoeddi yn Sbaen ac mae ar gael yn Sbaeneg a Saesneg.

Diolch i Mohamed Hassan, am rannu ei daith ffotograffig mor agored gyda ni trwy gydol y gweithdai, ac i'r holl gyfranogwyr a ymunodd ac a gymerodd ran yn y gweithgareddau. Diolch hefyd i Criwdem Celf a'r Creative Space am ganiatáu i ni gael man creadigol ar gyfer y diwrnod, ac i'r tîm yn Oriel Myrddin am drefnu.

Wedi ysgrifennwyd gan Abby Poulson.

Uchod: Ffotograffau'r cyfranogwr - Jasmine Ogilvie | Roz Moreton | Tim Chapman | William Blake | Yvonne Davies

Next
Next

Mohamed Hassan