Caffi Oriel Myrddin
Ar Agor Nawr
Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn
11:00 - 15:00
Rydyn ni wedi agor!
Rydym yn dechrau gyda bwydlen syml o ddiodydd poeth a meddal, cacennau a byrbrydau. Ar hyn o bryd rydym yn tyfu ein bwydlen lawn, gan weithio ochr yn ochr â chyflenwyr lleol a chynnyrch tymhorol.
Rydym yn falch i fod yn gweini coffi gan y cwmni coffi arobryn Welsh Coffee Co, y mae ei goffi yn rhannu ein hethos o ofalu am y gymuned a'r amgylchedd.
Galwch heibio am ymweliad! Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n fuan.
Bwydlen Enghreifftiol
Mae ein bwydlen yn seiliedig ar gynhwysion ffres o ffynonellau lleol.
Sylwch fod hon yn fwydlen enghreifftiol ac y gallai newid.
Crochenwaith Caffi
Rydym wrth ein bodd yn rhannu bod y crochenwaith a gafodd eu creu ar gyfer ein caffi gan yr artist serameg lleol Alanda Wilson wedi cyrraedd o'r diwedd!
Wedi'u crefftio â llaw o serameg garreg a'u gorffen mewn palet hyfryd o 'Welsh Thunder', 'Mountain Lichen' ac 'Ash Blue', mae pob darn wedi'i greu'n ofalus, gan ychwanegu cyffyrddiad artistig at bob paned o goffi neu de a phob sleisen o gacen a weinir yn y caffi.