Bywyd Llonydd: Paentio Ynghyd gyda’r Teulu
Gyda Lauren Pollard
Dydd Mercher 28 Hydref – 14:00-16:30
£3.00 y person - rhaid archebu lle i bob person.
Addas i deuluoedd â phlant 7+ oed
Ymunwch â'r artist Lauren Pollard ar gyfer gweithdy paentio teuluol. Byddwch yn cael eich arwain gam wrth gam i baentio darn bywyd llonydd eich hun, wedi'i ysbrydoli gan dymor yr Hydref a'n harddangosfa Bywyd Llonydd. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr. Dewch a’ch teulu am sesiwn creadigol, a gadael gyda phaentiad eich hun.
Bydd holl ddeunyddiau a phaent yn cael eu darparu.
Nodyn: Rydym yn argymell gwisgo dillad sy’n addas ar gyfer paentio.
Ynglŷn â CELF:
Mae'r gweithdy hwn yn rhan o gyfres o weithdai sy'n cyd-fynd â'n harddangosfa Bywyd Llonydd/Still Life sy'n dod ac wyth gwneuthurwr cyfoes at ei gilydd, ac wyth gwaith celf bywyd llonydd o gasgliad CELF, Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.
I roi gwybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, cysylltwch â ni trwy engagement@orielmyrddin.com
Os ydych wedi archebu ac na allwch fynychu mwyach, cysylltwch â ni i ganslo eich lle: info@orielmyrddin.com neu ffoniwch 01267 222775 .