Back to All Events

Charles Burton: Painting Still


  • Oriel Myrddin Gallery Church Lane Carmarthen SA31 1LH (map)

Cat on a Chair 1981

19 Mehefin - 19 Awst 2021

Ers chwe degawd mae Charles Burton wedi bod yn un o'r prif ffigyrau celf yng Nghymru. Cafodd ei eni ym 1929, a'i fagu mewn tlodi yng Nghwm Rhondda cyn y rhyfel. Pan oedd yn dal yn fyfyriwr yn Ysgol Gelf Caerdydd daeth yn ffigwr canolog yng Ngrŵp dylanwadol y Rhondda a phrynwyd ei waith ar gyfer casgliadau cyhoeddus. Enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol yn 24 oed. Yn y Coleg Brenhinol, disgrifiodd Carel Weight ef fel un o'r rhai mwyaf bywiog mewn cenhedlaeth o beintwyr a oedd yn cynnwys Peter Blake, Leon Kossoff a Bridget Riley. Ar ôl arwain yr adran baentio yng Ngholeg Celf Lerpwl yn oes y Beatles a beirdd Lerpwl, dychwelodd i dde Cymru ym 1970.

 Mae'r arddangosiad hwn yn Oriel Myrddin yn tynnu sylw at y cysondebau yng ngwaith Charles Burton o'r 1940au hyd heddiw – ei ddeunydd pwnc yn y bobl, y gwrthrychau a'r lleoedd sydd o'i gwmpas, ei ddiddordeb mewn strwythur a chynrychiolaeth ddarluniadol, a thawelwch a llonyddwch ei baentiadau. Mae'r artist wedi dewis y gwaith mewn cydweithrediad â'r oriel a Peter Wakelin, a ysgrifennodd y llyfr Charles Burton: Painting Still.

Mewn cydweithrediad ag Oriel Martin Tinney.

Gwneuthurwyr Dan Sylw: Rachel Eardley

Gemydd ac artist yw Rachel Eardley sy'n byw yng Ngwlad yr Haf ar hyn o bryd gyda'i gŵr a'i dau o blant. I ddechrau cafodd flas ar grefft y gof arian pan oedd hi'n 15 oed, ar ôl mynychu dosbarth nos gyda'i thad-cu, yna graddiodd mewn Crefftau 3D ym Mhrifysgol Brighton yn 1999.

Mae gan Rachel arddull ddarluniadol gref a nod ei gwaith yw rhoi ail fywyd i'r gwrthrychau hynny o ddydd i ddydd nad oes ganddynt lawer o ddiben o ran y modd rydym yn byw ein bywydau heddiw. Mae ei gemwaith wedi cynnwys popeth gan gynnwys offer cegin bychain, a darluniadau mwy cywrain o geiniogau, a gellir eu gweld yn y casgliad hwn o waith sy'n cael ei arddangos yma yn Oriel Myrddin ar hyn o bryd.

Previous
Previous
March 9

B R E A T H E: gan Helen Booth

Next
Next
August 28

Arddangosfa Agored Oriel Myrddin 2021