Gweithdy Argraffu Papur Wal 2 Ddiwrnod
Defnyddio technegau Argraffu Sgrin Bloc Lino a Stensil
Justyna Medon (@addicted_to_patterns): Gwneuthurwr Argraffiadau, Dylunydd Tecstilau a Phapur Wal & Chadwraethwr
Dydd Sadwrn & Dydd Sul
24 – 25 Hydref 2026
10:00 – 16:00
£185 (yn cynnwys lluniaeth, cinio a'r holl ddeunyddiau)
Mae'r gweithdy ymarferol deuddydd hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i sylfeini dylunio papur wal wedi'i argraffu â llaw gan ddefnyddio blociau leino, stensiliau papur a sgriniau sidan.
Mae'r cwrs yn cyfuno technegau lefel mynediad hygyrch â phrosesau stiwdio broffesiynol, gan alluogi cyfranogwyr i ddylunio ac argraffu paneli papur wal bwrpasol wedi'u hysbrydoli gan ddyluniad patrwm ac arwyneb. Bydd cyfranogwyr yn datblygu eu motiffau eu hunain, yn dysgu sut mae patrymau ailadroddus yn gweithio, ac yn creu panel papur wal brintiedig unigryw i'w gymryd adref.
Bydd cyfranogwyr yn:
Deall fel mae patrymau sy’n ailadrodd yn gweithio mewn dyluniad papur wal.
Creu bloc leino a stensiliau papur eich hun.
Dysgu sut i argraffu yn defnyddio blociau leino ac argraffu-sgrin.
Ennill hyder yn cymysgu lliwiau, cofrestru, a thechnegau haenu.
Gadael efo casgliad o siamplau wedi’i argraffu a phanel papur wall terfynol.
Ffocws y Gweithdy:
Datblygu motiffau a phatrymau syml trwy fraslunio a chollage.
Dysgu technegau torri-leino a defnyddio offeryn yn ddiogel.
Creu stensiliau papur i argraffu-sgrin.
Cyfuno prosesau leino a sgrin i adeiladu dyluniadau haenog.
Argraffu panel papur wal derfynol yn defnyddio blociau a stensiliau wedi’i crefftio â llaw.
Dydd Sadwrn & Dydd Sul
24 – 25 Hydref 2026
10:00 – 16:00
£185 (yn cynnwys lluniaeth, cinio a'r holl ddeunyddiau)
Mae'r gweithdy'n addas ar gyfer dechreuwyr a'r rhai sydd â rhywfaint o brofiad o argraffu.
Mae archebu’n hanfodol.