Back to All Events

GWEITHDY THEATR YMARFEROL I BLANT DAN 5 oed a’u teuluoedd

  • Oriel Myrddin Gallery 26 | 27 Stryd Y Brenin Caerfyrddin (map)

GWEITHDY THEATR YMARFEROL gyda Flossy & Boo

Ar gyfer blant dan 5 oed a’u teuluoedd.

Sadwrn 31 Ionawr

14:00 - 15:00

£4.50

Rhaid archebu lle ymlaen llaw.

Mae Dwrgi yn brofiad theatr dwyieithog, aml-synhwyraidd sy’n berffaith i blant o dan 5 oed, ond mae croeso i bawb!

Mae’r cynhyrchiad hwn yn canolbwyntio ar storïa, iaith a dad-ddofi ein hunain, ac mae’n plethu’r Gymraeg a’r Saesneg yn naturiol. Mae’n berffaith i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg ac unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg.

Gyda sblish a sblash llon

Cei ddilyn dy galon

A deifio i ddyfroedd y stori.

 ffwr balch a bodlon

Wrth nofio lawr yr afon

Dilyna lwybr y dwrgi.


Dilyna Dwrgi wrth iddi archwilio afonydd a nentydd, a ffeindio hud a lledrith ac ychydig bach o ddireidi ar hyd y daith 

Gan y doniau tu ôl i sioeau fel Blaidd, Ned and the Whale a How to Defeat Monsters (And Get Away With It), ymunwch â Flossy a Boo am stori arall yn llawn hwyl,

cerddoriaeth ac antur.

Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, cysylltwch â ni cyn archebu. Diolch

Archebwch yma
Previous
Previous
22 November

GWRACH | WITCH Clive Hicks-Jenkins A Fairy Tale Retold

Next
Next
18 February

Gweithdy Hanner TYMOR PYPEDAU CYSGOD