Back to All Events

O Sbwriel i Drysor: Gweithdy Gemwaith o Plastig wedi'i Ailgylchu gyda Bronwen Gwillim

  • Oriel Myrddin Gallery 26 27 Stryd y Brenin Caerfyrddin SA31 1BS (map)

Ymunwch â’r gwneuthurwr gemwaith cyfoes Bronwen Gwillim am weithdy ymarferol yn trawsnewid plastig gwastraff mewn i gelfyddyd feiddgar, y gellir ei gwisgo. Dysgwch dechnegau creadigol, chwaraewch gyda lliw a gwead, a chreu darn unigryw i’w gymryd adref.

Yn y sesiwn ddiddorol hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu am wahanol fathau o blastig ac amrywiaeth o dechnegau ar gyfer torri, asio, siapio a ffurfio darnau gemwaith unigryw yn ddiogel. Dan arweiniad arbenigedd a dull chwareus Bronwen, byddwch yn arbrofi gyda lliw, gwead a ffurf cyn creu darn unigryw o emwaith i'w wisgo gartref gyda balchder.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond chwilfrydedd a pharodrwydd i fynd ati.

Beth i'w ddisgwyl:

  • Cyflwyniad i blastigau gwastraff a sut y gellir eu hailddefnyddio'n greadigol

  • Technegau ymarferol ar gyfer siapio a ffurfio plastig yn ddiogel

  • Amgylchedd cefnogol a chreadigol gydag arweiniad arbenigol

  • Eich darn o emwaith lliwgar wedi'i wneud â llaw eich hun i'w gymryd adref

Mae deunyddiau wedi'u cynnwys yn y gost ac mae offer ar gael i'w defnyddio yn ystod amser y gweithdy.

Mae archebu’n angenrheidiol

Dewch â phecyn bwyd, os gwelwch yn dda

Darperir te a choffi

Amdano Bronwen Gwillim:

Mae Bronwen Gwillim (@bronwengwillim) yn wneuthurwr gemwaith cyfoes sy'n gweithio gyda phlastig gwastraff a gesglir o draethau arfordir Sir Benfro. Mae ei darnau beiddgar, unigryw yn cyfuno plastig traeth wedi'i adfer, plastig gwastraff diwydiannol, arian wedi'i ailgylchu a resinau, gan gynnwys resin wedi'i wneud gan ddefnyddio ei llwch plastig wedi'i ailgylchu ei hun.

Wedi'i ysbrydoli gan y môr a'r glannau ger ei chartref, mae gemwaith Bronwen yn dathlu gwead, lliw a chyffyrddiad, gan roi cymeriad naturiol, sydd wedi treulio gan y tywydd, i ddeunyddiau wedi'u taflu. Mae ei hymarfer wedi'i wreiddio mewn cynaliadwyedd, gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, offer llaw a phrosesau effaith isel lle bynnag y bo modd.

Gweithdy Diwrnod Cyfan

Dydd Sadwrn 6 Mehefin 2026

11.00 - 16.00

£60

Previous
Previous
27 May

Gweithdy Teulu: Crwydro/Wanderings 

Next
Next
13 June

Agored OM 2026