Mae Clwb Collage yn ôl am noson arall o dorri a gludo, a'r tro yma rydyn ni yng Nghegin Diod yn Llandeilo! Dewch draw am noson gyfeillgar ac hwylus lle byddwn yn creu collages ein hunain wedi'u hysbrydoli gan bopeth sy'n byw ac yn llifo trwy Ddyffryn Tywi. Mae'r digwyddiad hwn am ddim, a darperir yr holl ddeunyddiau collage. Archebwch tocyn nawr i sicrhau eich lle.
Rydym yn ymdrechu i gynnal digwyddiadau cynhwysol a hygyrch sy'n galluogi pob unigolyn, gan gynnwys unigolion ag anableddau, i ymgysylltu'n llawn. Ar gyfer ceisiadau neu ymholiadau am hygyrchedd, cysylltwch ag Abby Poulson - apoulson@carmarthenshire.gov.uk
Bwyd:
Mae bwyd a diod ar gael yng Nghegin y Diod o 6 o’r gloch. Mae croeso i chi ymuno a ni yn gynnar am fwyd - i archebu ford ar gyfer bwyta cysylltwch a marketing@diod.cymru / 01558 824023