Back to All Events

Peter Bodenham: Llestr Môr


  • Oriel Myrddin Gallery Church Lane Carmarthen SA31 1LH (map)

15 Awst – 24 Hydref 2020

Ymchwiliad ac estyniad i brosiect ymchwil safle-benodol Peter yw 'Llestr Môr', lle mae wedi bod yn astudio'r effaith ddynol ac ecolegol ar ddarn bach o arfordir  Gorllewin Cymru. Mae Peter wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn codi plastig o'r draethlin, yn ogystal â gwymon a chlai, gan ddefnyddio'r rhain yn ei arferion seramig ei hun i ymateb i 'harddwch' bob dydd, ond dim llai niweidiol eu heffaith, falurion plastig y deuir ar eu traws. 

Mae Peter wedi cydweithio â'r ffotograffydd a'r artist fideo Nigel Goldsmith. Ar hyn o bryd mae Nigel yn byw ac yn gweithio yng Nghaerfaddon, ond cafodd ei eni a'i fagu yn Aberteifi ac mae'n adnabod y traeth yn dda. Pwyslais ei waith presennol yw syniadau am yr Anthropocene, y môr, llif masnach byd-eang drwy longau a materion amgylcheddol.

Gallwch weld arddangosfa Peter Bodenham ar-lein yma.

Next
Next
November 10

Y Sioe Aeaf