Dydd Sadwrn 11 Ebril
11:30 – 13:30
£5.00
Gan ddefnyddio gwaith Kim Norton ar Goedwig Coed Craig Ruperra, safle collddail sy’n adfer rhwng Caerffili, Caerdydd a Chasnewydd, fel man cychwyn, Bydd Kim ac Alan hefyd yn trafod rôl Alan yn Geoparc Byd-eang UNESCO Fforest Fawr o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (a elwid gynt y Brecon Beacons) yn Ne Cymru.
Wedi hyfforddi fel gwyddonydd daear, bu Alan yn gweithio ym maes cadwraeth natur a mynediad i gefn gwlad ar draws gogledd Lloegr cyn symud i dde Cymru 19 mlynedd yn ôl i helpu datblygu Geoparc Fforest Fawr gyda Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wrth ymgysylltu ag artistiaid a gwyddonwyr fel ei gilydd, mae’n tynnu ar ei ddiddordebau mewn hanes, iaith a mapio i archwilio hanesion tirwedd, gan ganolbwyntio’n aml ar ‘amser dwfn’ a dylanwad gweithgarwch dynol. Ar un adeg yn ddringwr creigiau ac yn ogofwr brwd, mae’n fwy tebygol bellach o dreulio’i amser yn chwilio am ddarnau anghyffredin o archeoleg ddiwydiannol ar draws y ffin rhwng Cymru ddiwydiannol ac amaethyddol.