Back to All Events

Ymatebion i SOWND: Gwau Geiriau gyda Elinor Gwynn

  • Oriel Myrddin Gallery 26 27 Stryd y Brenin Caerfyrddin SA31 1BS (map)

Gwau Geiriau gyda Elinor Gwynn

Sownd: Manon Awst + Dylan Huw 

Cymru yn Fenis / Wales in Venice 

Am ddim - lleoedd cyfyngedig ar gael

Dewch i fwynhau bore braf yng nghwmni'r 'sgwennwraig a'r amgylcheddwraig Elinor Gwynn, lle byddwn yn plethu geiriau a delweddau sy'n perthyn i dirwedd  de-orllewin Cymru, ac yn dysgu am grefft hynafol cynganeddu.  Gyda chyfraniad arbennig gan y Prifardd Hywel Griffiths.

Mae Cynghanedd yn dechneg farddonol draddodiadol Gymreig lle mae'r synau o fewn llinell o farddoniaeth yn dilyn patrwm llym o harmoni, ailadrodd a chydbwysedd. Er enghraifft, mae beirdd yn ailadrodd ac yn paru synau yn ofalus i wneud y llinell yn bleserus i'r glust, bron fel math o gerddoriaeth lafar. Mae Cynghanedd yn ffordd o drefnu geiriau fel bod cytseiniaid (ac weithiau llafariaid) yn creu patrwm cerddorol o fewn llinell o farddoniaeth Gymreig.

Ysbrydolwyd cerdd Hywel ar gyfer y gweithdy hwn gan Gors Goch, cyforgors tir isel ger pentref Llanllwch ar gyrion gorllewinol Caerfyrddin. Mae'r gerdd yn myfyrio ar y cyferbyniad rhwng prysurdeb y ffordd ddeuol wrth ymyl y gors a'r rheilffordd a osodwyd trwy ei chanol a ffurfiant araf y mawn dros filoedd o flynyddoedd. 

Mae'r gweithdy yma yn rhan o raglen gyhoeddus yn archwilio'r themâu a syniadau cyflwynir yn arddangosfa Cymru yn Fenis gan Manon Awst a Dylan Huw.

Addas ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

Am ddim - lleoedd cyfyngedig ar gael

Amdano Elinor Gwynn:

Lleoedd, byd natur a iaith yw pethe’ Elinor Gwynn wedi bod erioed. Cafodd ei magu yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin a phenderfynodd o oedran cynnar i ddilyn gyrfa mewn cadwraeth natur a rheolaeth tirwedd. Dros y blynyddoedd mae hi wedi mwynhau dilyn llwybrau creadigol ochr yn ochr â’i swyddi gwahanol, yn bennaf drwy waith ysgrifennu a chelf. Enillodd Elinor goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2016. Yn ddiweddar bu’n astudio’r berthynas rhwng iaith a thirwedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bellach mae hi’n ymchwilio i hanes meddygaeth lysieuol yng Nghymru rhwng canol y 19eg a hanner cyntaf yr 20fed ganrif. 

Amdano Hywel Griffiths:

Mae Hywel Griffiths yn ddaearyddwr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth ac yn fardd. Mae wedi cyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth ac enillodd coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008 a'r Gadair yn 2015. Magwyd Hywel ym mhlwyf Llangynog, ychydig i'r gorllewin o Gaerfyrddin cyn symud i Aberystwyth i astudio daearyddiaeth a mathemateg chwarter canrif yn ôl. Mae ei waith academaidd ar geomorffoleg - y wyddor sy'n astudio tirfluniau a thirffufiau a'r prosesau sy'n eu creu - a'i waith creadigol yn aml yn ysbrydoli ei gilydd. Mae ei farddoniaeth yn trafod perthynas pobl a'u tirwedd a'i hanes, a'i waith academaidd yn gynyddol yn canolbwyntio ar farddoniaeth fel arf i drafod a chyfathrebu gwyddoniaeth a materion amgylcheddol. Hywel yw Bardd Tref Aberystwyth ar hyn o bryd. 

I rannu unrhyw anghenion mynediad, cysylltwch â ni: engagement@orielmyrddin.com

Os nac ydych yn gallu mynychu y digwyddiad, cysylltwch a ni i ganslo eich lle: info@orielmyrddin.com neu ffoniwch 01267 222775

Mwy o Wybodaeth:

Comisiynir Cymru yn Fenis gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig. Cefnogir Sownd [ar safle] / Sownd [on site] ymhellach gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Art Fund, Cyfoeth Naturiol Cymru a Peatland Cymru.

Mae Sownd wedi'i guradu gan Steffan Jones-Hughes a chefnogir y prosiect gan Oriel Davies ac Oriel Myrddin.

Previous
Previous
22 August

Gweithdy: Cwiltio Golygfeydd gyda Sophie Snow

Next
Next
5 September

Gwneuthurwr Dan Sylw: Buddug