Sownd [ar safle]
Manon Awst + Dylan Huw
06 Mehefin 2026 - 12 Medi 2026
Dyma wahoddiad i fynd yn sownd ar safle gwlyb ac ansefydlog
Dyma ymdrochiad i mewn i fater amser; i isfyd garw, gludiog
Dyma strwythur, dyma lwybr,
i annog cysylltiad corfforol
â gwaddodion celfyddyd fyw Gymreig
Mae Sownd [ar safle] yn gyfres o dri digwyddiad byw safle-benodol yng Nghymru, sy’n rhan o Sownd, prosiect ar gyfer y 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia. Bydd y rhaglen yn digwydd ar gorsydd ar draws Cymru, wedi eu cydlynu gan yr artistiaid Manon Awst a Dylan Huw, gyda thîm curadurol Sownd ac artistiaid gwadd.
6.6.26: Cors Bodeilio, Môn - Tocynnau am ddim ar gael arlein
11.7.26: Cors Caron, Ceredigion - Tocynnau am ddim ar gael arlein o 17.7.26
12.9.26: Cors Crymlyn, Abertawe - Tocynnau am ddim ar gael arlein o 19.8.26
Mae Sownd [ar safle]yn gwahodd artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru i suddo'n ddyfnach i themâu a deunyddiau Sownd. Sail yr arddangosfa yn Fenis a'r rhaglen safle-benodol hon yw ymchwil Manon Awst a Dylan Huw ar fawndiroedd: amgylcheddau gludiog ac ansefydlog, sy'n cuddio ac yn datgelu graddfeydd eang o hanes materol. Mae'r safleoedd hyn, sy’n gyfansawdd o fater organig a chof diwylliannol, yn dod yn ofodau ar gyfer llywio hanesion gwaddodedig iaith, diwylliant ac ecoleg. Mae partneriaeth ryng-ddisgyblaethol Manon a Dylan yn gwahodd cysylltiadau ar draws ffiniau, wedi'u saernïo gan waddol unigryw traddodiadau “byw” barddonol a safle-benodol yng Nghymru.
Bydd pob digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad perfformiadol gan Manon Awst a Dylan Huw yn ogystal â chomisiynau byw newydd yn ymateb i’r safle gan artistiaid blaenllaw o Gymru.
Comisiynir Cymru yn Fenis gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth a chydweithrediad Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig. Cefnogir Sownd [ar safle] / Sownd [on site] ymhellach gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac Art Fund.
Free tickets available online from
Wednesday 17 June 2026
Free tickets available online from
Wednesday 19 August 2026