Back to All Events

Bywyd Llonydd / Still Life


  • Oriel Myrddin Gallery 26 / 27 Stryd y Brenin Caerfyrddin SA31 1BS (map)

Standing Train II by Andrzej Jackowski | Delwedd trwy garedigrwydd Derek Williams Trust/Amgueddfa Cymru - Museum Wales

Bywyd Llonydd / Still Life 

Rhan o CELF, Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru

5 Medi - 31 Hydref

Mae Bywyd Llonydd / Still Life yn arddangosfa hwyliog a lliwgar sy’n dod â phaentiadau o’r Casgliad Cenedlaethol ynghyd â gweithiau celf newydd sbon a gomisiynwyd gan wyth o artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes. 

Mae pob artist wedi cael paentiad o’r Casgliad Cenedlaethol ac wedi cael cais i greu gwaith celf 3D wedi’i ysbrydoli ganddo. Maent wedi defnyddio lliwiau, siapiau, gweadeddau, patrymau neu ddeunyddiau o’r gwaith celf gwreiddiol i greu rhywbeth newydd. 

Mae’r arddangosfa’n ein hannog i edrych yn fanwl, sylwi ar y cysylltiadau rhwng y gweithiau celf, a darganfod sut mae artistiaid yn troi syniadau’n rhywbeth cwbl newydd.

Mynediad am ddim - croeso i bawb

Y gwneuthurwyr:

Apphia Ferguson-Ross (@apphia_ferguson_ross

Jen Keen (@jenfkeen

Justyna Medon (@addicted_to_patterns

Katherine Breaks (@katebreaksceramics

Otto Gobey (@otto_gobey

Sioned Medi Evans (@osgo___

Steph Avery-Reynolds (vivatmatriarchia.com)   

Toni De Jesus (@tonidjesus)

Yr artistiaid:

Sally Moore

Martin Parr

Vanessa Bell

Andrzej Jackowski

Patrick Caulfield

David Jones

Anthony Green

John Bowen

Gwneuthurwr Dan Sylw: Buddug

 

CELF yw Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru, sy'n dod â'r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes i bobl ledled Cymru a thu hwnt trwy rwydwaith cydweithredol o bartneriaid a'i llwyfan digidol, celfarycyd.

Gyda diolch i CELF am gefnogi'r arddangosfa hon.

Previous
Previous
5 September

Gwneuthurwr Dan Sylw: Buddug

Next
Next
10 September

SOWND: Manon Awst, Dylan Huw & Elliott Flanagan Mewn Sgwrs