Manon Awst, Dylan Huw & Elliott Flanagan Mewn Sgwrs
Cymru yn Fenis / Wales in Venice
Sownd: Manon Awst + Dylan Huw
Am ddim - lleoedd cyfyngedig ar gael
Amdano’r digwyddiad:
Ymunwch â ni am gyflwyniad i Sownd, y prosiect gan yr artistiaid Manon Awst a Dylan Huw sy'n cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis eleni, un o ddigwyddiadau celf gyfoes bwysicaf y byd.
Mae'r gwaith wedi'i lywio gan ymchwil i fawndiroedd yng Nghymru—tirweddau gwlyb, ansefydlog sy'n dal haenau dwfn o hanes, atgof ac ystyr diwylliannol. Drwy gysylltu'r safleoedd hyn â Fenis, mae'r artistiaid yn tynnu sylw at heriau ecolegol cyffredin a'r ffyrdd y mae lleoedd yn dal ac yn trawsnewid straeon dros amser.
Gan dynnu ar etifeddiaeth gyfoethog Cymru o ymarfer byw a chyfunol, gan gynnwys barddoniaeth gynghanedd a pherfformiadau safle-benodol, mae'r prosiect yn creu "pensaernïaeth o gydblethiad," gan gerflunio a glynu deunyddiau, synau a geiriau at ei gilydd.
Bydd ffilm hyrwyddo fer am y prosiect yn agor y noson. Yna bydd yr artistiaid yn ein tywys trwy sgwrs ddarluniadol yn amlinellu themâu'r prosiect a'r dull cydweithredol, ac yna sgwrs a sesiwn holi ac ateb gydag Elliott Flanagan, Curadur Cyswllt y prosiect.
Mae Cymru yn Fenis yn cael ei gomisiynu a'i reoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Cefnogir gan y sefydliadau arweiniol Oriel Davies ac Oriel Myrddin. Gyda chefnogaeth bellach gan Colwinston Charitable Trust ac Art Fund.
I rannu unrhyw anghenion mynediad, cysylltwch â ni: engagement@orielmyrddin.com.
Os nac ydych yn gallu mynychu y digwyddiad, cysylltwch a ni i ganslo eich lle, info@orielmyrddin.comneu ffoniwch 01267 222775.
Amdano’r siaradwyr:
Mae Manon Awst yn artist sy'n byw yng Nghaernarfon, Cymru, ac mae ei harfer cerfluniol a pherfformiadol wedi'i wreiddio mewn safleoedd penodol. Caniataodd Cymrodoriaeth Ymchwil Sefydliad Henry Moore a Chymrodoriaeth Ddyfodol Cymru ddiweddar iddi ddatblygu ymchwil greadigol ar fawndiroedd. Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llywodraeth y DU a Senedd Cymru.
Mae Dylan Huw yn awdur ac yn artist sy'n gweithio ar y cyd ar draws ieithoedd a disgyblaethau. Mae prosiectau diweddar wedi cael eu cefnogi gan Sefydliad Jerwood, Artes Mundi, LUX a Mostyn. Mae ei waith beirniadol wedi'i gyhoeddi gyda Frieze, e-flux ac Art Monthly, ac mae wedi bod ar y rhestr fer ddwywaith ar gyfer y Wobr Ryngwladol am Feirniadaeth Gelf.
Mae Elliott Flanagan yn artist amlgyfrwng sy'n gweithio ar draws hunaniaeth, cof a dosbarth. Ei brosiect diweddar ‘You can never really return home’ oedd llyfr ac arddangosfa yn ei dref enedigol, Burnley, a gomisiynwyd gan Super Slow Way. Mae wedi gweithio gyda Venture Arts, A Modest Show ac wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan gynnwys Tate Liverpool, HOME Manchester, a Biennale Fenis.
Llun: Dewi Tannatt Lloyd