I gydfynd â OM Agored 26 rydym yn croesawu Sophie Snow fel ein gwneuthurwr dan sylw. Wedi’i lleoli yn Llandudoch, Gorllewin Cymru, mae Sophie Snow yn ddylunydd tecstiliau a chwiltiwr sydd wedi’i hysbrydoli gan y dirwedd o amgylch ein chartref. Ar ôl mwy na deng mlynedd yn gweithio yn y diwydiant ffasiwn fel dylunydd printiau, dychwelodd Sophie at ei hymarfer creadigol ei hun a chariad o grefftau.
Gan weithio gyda lliw, siâp, patrwm a gwead, mae hi’n creu darnau tecstiliau unigryw nodedig sy’n dwyn ynghyd ddylunio cyfoes a thechnegau cwiltio traddodiadol. Mae pob gwaith yn adlewyrchu ei dull chwareus o greu a’i chysylltiad a â thirwedd Cymru.