Back to All Events

Cyfarfod Engage Cymru Oriel Myrddin

  • Oriel Myrddin Gallery Church Lane Carmarthen SA31 1LH (map)

Mae Engage Cymru yn cynnal y digwyddiad olaf yn y gyfres hon o gyfarfodydd yn Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin. Yn dilyn ailagor yr oriel ym mis Tachwedd 2025, dyma gyfle i ymweld â’r mannau newydd a chlywed mwy am y gwaith gan dîm Oriel Myrddin.

Mae’r cyfarfodydd hyn yn hamddenol, cyfeillgar a chynhwysol, ac mae croeso i chi ddod i’r sesiwn gyfan neu ran ohoni. Bydd y cyflwyniad yn ddwyieithog, ac anogir trafodaeth a sgwrsio yn Gymraeg a Saesneg. Bydd y cyflwyniadau a’r gweithdai’n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Mae pob sesiwn yn para tua dwy awr a hanner. Er nad oes egwyl ffurfiol wedi’i drefnu, mae croeso i gyfranogwyr gael seibiant ar unrhyw bryd.

Nodau’r sesiwn yw:

  • Cysylltu â chydweithwyr o bob rhan o Gymru

  • Clywed a rhannu mwy am ymarfer cyfranogol a chynhwysol yn y celfyddydau gweledol

Beth i’w ddisgwyl

  • Bydd y Cynhyrchydd Creadigol Catherine Spring yn cyflwyno rhaglen Oriel Myrddin a chyfleoedd sydd ar y gweill.

  • Bydd y Rheolwr Ymgysylltu Abby Poulson yn rhannu manylion am y rhaglen ymgysylltu arfaethedig.

  • Gweithgaredd creadigol dan arweiniad yr artist Daisy Buckle o Natural Curiosity Studio.

  • Cyfleoedd drwy gydol y sesiwn i sgwrsio, rhwydweithio a chysylltu â’r bobl eraill sydd yno.

Lleoliad a Mynediad

Cynhelir y digwyddiad yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin.

Mae’r adeilad yn gwbl hygyrch, a cheir mynediad i’r rhan y byddwn ni’n ei defnyddio gyda lifft neu risiau.

Mae yno doiledau hygyrch a niwtral o ran rhywedd.

Mae meysydd parcio cyhoeddus yn agos: Maes Parcio Sant Pedr yw’r agosaf. Parciwch yn y mannau â llinellau gwyn er mwyn cael aros drwy’r dydd.

Nid yw’r oriel ar agor i’r cyhoedd tan 11 am. Canwch gloch y swyddfa ar y drws sydd i’r dde er mwyn dod i mewn i’r adeilad.

Os oes gennych chi ofynion o ran mynediad neu os hoffech chi drafod sut y gallem ni eich cefnogi i ddod, rhowch wybod i ni.

Gallwch gysylltu â Sian drwy ebost: cymru@engage.org

Lluniaeth

Caiff te, coffi a bisgedi eu darparu, gan gynnwys:

  • Dewisiadau figanaidd

  • Dewisiadau di-glwten

  • Llaeth ceirch

  • Llaeth buwch hanner sgim

Rhowch wybod i Sian os oes gennych chi unrhyw ofynion dietegol eraill.

Gwybodaeth archebu

Mae’r digwyddiad am ddim ond mae llefydd yn gyfyngedig, felly mae’n rhaid archebu. 

Archebwch eich lle drwy Eventbrite.

Os na fyddwch chi’n gallu dod ar ôl archebu, dylech ganslo eich archeb neu roi gwybod i Sian fel bod rhywun arall yn gallu dod yn eich lle chi. 

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a diolch i Celfyddydau Anabledd Cymru am eu cyngor.

Previous
Previous
6 June

O Sbwriel i Drysor: Gweithdy Gemwaith o Plastig wedi'i Ailgylchu gyda Bronwen Gwillim