MEWN SGWRS: Sophie Snow
Gwneuthurwr Dan Sylw Haf 2026
Wedi'i gyfweld gan GRACE WOLFE
Artist tecstilau wedi ymsefydlu yn Sir Benfro yw Sophie Snow a chaiff ei hadnabod am ei gwaith appliqué sy’n adlewyrchiadau o dirweddau traddodiadol Cymru. Mae hi’n cyfuno arfordiroedd gwledig gyda thechnegau pwytho Dwyrain Asia a ffabrigau er mwyn creu cwiltiau, sgarffiau, a darnau tecstil wedi’u fframio.
Wedi'i lleoli yn Llandudoch, Gorllewin Cymru, mae Sophie Snow yn ddylunydd tecstilau a chwiltiwr sydd wedi'i hysbrydoli gan y dirwedd o amgylch ei chartref. Ar ôl mwy na deng mlynedd yn gweithio yn y diwydiant ffasiwn fel dylunydd printiau, dychwelodd Sophie at ei hymarfer creadigol ei hun a chariad o grefftau.
Gan weithio gyda lliw, siâp, patrwm a gwead, mae hi'n creu darnau tecstilau unigryw nodedig sy'n dwyn ynghyd ddylunio cyfoes a thechnegau cwiltio traddodiadol. Mae pob gwaith yn adlewyrchu ei dull chwareus o greu a'i chysylltiad â thirwedd Cymru.
Mae gwaith Sophie Snow i’w weld ac ar gael i’w brynu yn Oriel Myrddin hyd 29 Awst.
Ffotograffiaeth gan Kate Dunwell
‘Edrych lan | Look up’ gan Sophie Snow
Hai Sophie! Ar hyn o bryd rydych chi wedi ymsefydlu yn Llandudoch, un o’r pentrefi gyda’r cyfoeth hanesyddol mwyaf yn Sir Benfro, sut mae’r cyffiniau’n effeithio ar eich gwaith?
Wel, pan rydych chi’n gweld fy ngwaith, mae’n ymwneud yn llwyr â golygfa. Yr arfordir sy’n amgylchynu’r pentref, yr aber, a’r holl fywyd gwyllt hefyd. Byddwn i’n dweud ei fod yn gyffredinol yn ymwneud â fy mywyd bod dydd yno, gollwng y plant yn yr ysgol, codi’r plant o’r ysgol, mynd i’r farchnad, sydd bob dydd Mawrth, a throchi fy hunan yn Llandudoch.
Pa fywyd gwyllt cewch chi eich denu’n arbennig ato?
Adar, dwi’n caru adar. Mae gyda fi gasgliad sy’n edrych ar fudo. Roedd yn edrych ar y ffordd mae adar yn symud. Mae’n swnio’n llythrennol iawn nawr, ond hedfan, sut maen nhw’n teithio o le i le. Yr ieir ar yr heol, a’r ceffylau sy’n dringo’r mynyddoedd lleol a phethau felly. Mae’n ymwneud ag edrych ar y pethau bob dydd rydyn ni’n cymryd yn ganiataol, nid o reidrwydd oherwydd ein bod yn bwriadu gwneud hynny, ond achos ein bod ni mor gyfarwydd â’u gweld nhw bob dydd.
Darllenais eich bod wedi astudio Dylunio Tri-dimensiwn yn Ysgol Gelf Manceinion a symud ymlaen wedyn i ennill gradd Meistr mewn Dylunio Tecstilau yng Nghaerwynt. Byddwn wrth fy modd yn clywed ynglŷn â’ch siwrnai addysgol drwy’r cyfnod hwn. Pa fath o waith oeddech chi’n ei greu?
Dilynais i gwrs Sylfaen yma yng Nghaerfyrddin gyntaf ond mewn gwirionedd roeddwn i eisiau’r newid hwnnw o fod wedi byw yng nghefn gwlad i symud i ddinas drefol fawr. Dechreuais gyda gemwaith a meddwl roeddwn i’n mynd i fod yn wneuthurwr gemwaith. Ond byddai’r darlithydd yn cadw i ddweud wrtha’ i, mae gyda chi’r elfen decstil go iawn yma ynoch chi. Dyma dreulio ysgoloriaeth dair wythnos allan yn yr India ac yn amlwg dyma fi jyst yn cwympo mewn cariad gyda’u gwaith a’u technegau. Maen nhw’n dal i ddod i mewn i fy ngwaith heddiw, a dwi’n siŵr y byddwn ni’n cyffwrdd â hwn nes ymlaen. Ond dyma oedd y man cychwyn i hwn i gyd i mi. Wedi i mi ddychwelyd, dywedais wrth fy nhiwtor, ‘Dwi’n credu bod angen i mi fynd ymlaen yn syth i radd Meistr, a dwi’n credu bod angen i mi newid disgyblaeth’.
Felly sut mae eich gwaith wedi esblygu ers eich gradd Meistr?
Roeddwn i’n dilyn fy nghwrs Meistr mewn cyfnod pan oedd y dirwasgiad wedi bwrw’r DG yn wael. Roedden ni’n cael ein gwthio i ddiwydiant, gwthio i gytundebau, pensiynau, morgeisi achos bod y byd mor ansefydlog. Ond fe ddysgais lawer. Dwi wastad wedi ymddiddori mewn ffasiwn. Mae fy steil a’m dillad, fel fy ngemwaith, i gyd mewn ffordd wedi’u clymu â’i gilydd. Felly, ond yn ddim ond 22, roeddwn i’n ddigon hapus i fynd allan, cael swydd, ac fel pe tai, i brofi’r diwydiant ffasiwn. Roeddwn i’n awchu am gael rhoi fy stamp ar y byd hwn, ac fe wnes i hynny. Gwnes i bennu lan yn Ffasiwn y Stryd Fawr. Roedd gyda fi rai cydweithwyr hyfryd, ond roeddwn i’n cynhyrchu rhywbeth fel pymtheg print y dydd, y cwbl ar gyfrifiadur. Roedd y creadigrwydd wedi diflannu. Un diwrnod taflodd rhywun wisg Topshop ata’ i a dweud, ‘Ydych chi’n gallu gwneud y print yma yn gymwys fel hyn, jyst digon fel nad ydyn ni’n cael ein siwio?’. Yna trodd ata’ i a jyst dweud, ‘wel, mewn gwirionedd, does dim ots gyda fi, achos chi yw’r un sydd yn mynd i gael eich siwio.’. Dwi jyst yn cofio meddwl, ‘dwi methu gwneud hyn. Nid dyma beth o’n i’n bwriadu gwneud’. Felly, dyma fi’n gadael yn y diwedd. Sylweddolais fod angen peth amser i greu arna’ i.
Ar ôl gweithio yn y diwydiant ffasiwn am gyfnod mor hir o’ch bywyd dyma chi’n sefydlu eich ymarfer annibynnol eich hunan. Ydi’r cyfnod hwn yn ffasiwn yn dal i ddylanwadu ar eich gwaith?
Yn bendant. Roeddwn i’n wneuthurwr print am flynyddoedd. Mae wedi fy helpu i ffocysu. Mae wedi fy helpu go iawn i hogi fy lliw, ond hefyd i ddod o hyd i ffynonellau ar gyfer fy ffabrigau a stwff. Dwi’n cael llawer o bobol sy’n dweud wrtha ‘i, ‘dwi jyst eisiau gwisgo un o’ch bydoedd’ a byddwn i wrth fy modd yn gwneud siaced. Ond dwi jyst methu, dwi ddim wedi cyrraedd y fan yna eto ar y rhan honno o’r siwrnai, mae’n mynd i gymryd amser. Dwi wedi dechrau gwneud sgarffiau sidan, o ddarluniau gwreiddiol y cwiltiau. Dwi’n credu bod pob elfen o’r siwrnai yn bwysig, p’un ai’n brofiad da neu’n brofiad drwg. Mae’n rhaid i chi gael golwg am yn ôl a gweld lle mae wedi mynd â chi nawr.
Treulioch beth amser wedi cyfnod addysg yn teithio, gallwch chi sôn am ble fuoch chi a’r argraff greodd y lleoedd hyn ar eich ymarfer?
Es i i Indonesia. Roeddwn i’n edrych ar wehyddu Ikat, lle rydych chi’n llifo eich ffabrig cyn iddo fynd i’r gwŷdd ac yna rydych chi’n ei wehyddu, mae hi bron fel delwedd neu batrwm arddull yn ymddangos. Dwi wedi gwneud llawer o brintiau dull Ikat yn y fy ngyrfa; dwi jyst yn cael y dull hwnnw o wneud ffabrig yn hynod ddiddorol.
Es i i Foroco. Mae eu baddonau llifo yn bethau rhyfeddol. O mam bach. Mae’n rhyfeddol. Mae gyda nhw’r holl system weithio lledr mas yna. Maen nhw’n cloddio’r baddonau enfawr hyn i mewn i’r ddaear. Mae’n debyg i bridd cleiog. Ac maen nhw jyst yn suddo llwythi o grwyn lledr yn y baddonau ac yn eu sychu. Ac wedyn mae gerddi Yves St Laurent. Roedd Moroco’n ddylanwad enfawr arno. Ac mae ei erddi yn anhygoel. Yr holl gacti gwahanol a phethau.
Fel y sonioch chi’n gynt, gwnaethoch chi gwblhau cyfres o ddarnau dan gasgliad Mudo. Mae ganddo’r motiff Matisse-aidd o wenoliaid. Ond hoffech chi sôn ymhellach ynglŷn ag arwyddocâd y teitl a’r gwenoliaid i chi?
Ymddiddorais mewn cwiltio gan i mi fynd yn sâl gyda fy nhrydydd beichiogrwydd. Roeddwn i’n dal i weithio yn y diwydiant ffasiwn, ond mae hi mor lan a lawr. Roeddwn, i fod yn gwbl onest, tipyn bach ar goll. Roedden ni newydd symud nôl i Gymru. Ac i ddweud y gwir, rydyn ni wedi bod yn symud am amser hir iawn, blynyddoedd yn wir. Dwi wedi byw ym Manceinion, Southampton, Swydd Rhydychen, a Lerpwl. Ac yna wedi cael plant, dyma ni’n penderfynu dod adref. Ond des i adref a sylweddoli wedyn nad oedd gyda fi unrhyw beth i fi fy hunan nawr a doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Felly, roeddwn i’n sgwrsio gyda fy ngŵr am hyn a dywedodd yntau, ‘pam na wnei di’r cwiltiau rwyt ti wastad wedi eisiau i dy blant?’
Pan oedd hyn yn digwydd roedd fy ngŵr yn colli ei dad. Yr un peth ddywedodd wrtha’ i, ‘dwi jyst eisiau fe weld y gwenoliaid yn dychwelyd adref unwaith eto’. Dyna o le daeth yr holl gasgliad hwnnw. Y syniad yma o fynd a dod a setlo. Jyst bod mewn ennyd o amser a gwerthfawrogi’r ennyd honno gan nad ydych chi’n gwybod pryd mae’n mynd i fynd a dod. Felly ydyn, mae’r gwenoliaid yn dal i fod yn nodwedd yn fy narnau. Dwi’n credu y byddan nhw am byth. Dwi’n credu bydd gwennol wastad yn fy ngwaith.
Beth am i ni sôn am bwytho Kantha. Mae fy mam yn dwlu ar Kantha. Mae ganddi’r blancedi a’r tapestrïau Indiaidd enfawr yma. Rydych chi wedi mabwysiadu’r pwythau rhedeg ar draws llawer o’ch darnau tecstil. Beth yw eich perthynas â Kantha?
Es i i’r India ar ysgoloriaeth. Gwnaethon nhw fynd â ni allan i grŵp merched llwyth Indiaidd traddodiadol am ddiwrnod er mwyn astudio Kantha. Roeddwn i jyst yn cael fy nenu ati. Roeddwn i bron wastad yn prynu dillad gyda hi arnyn nhw, darnau o decstilau a phethau tebyg gyda phwythau rhedeg Kantha. Meddyliais ddim byd amdani ar wahân fy mod jyst yn ei hoffi’n fawr, achos yn amlwg printio oedd fy mhethau ar y pryd. Ond hyd yn oed wrth edrych nôl, pryd bynnag dwi’n darlunio syniadau newydd ar gyfer cwilt a phethau tebyg, dwi’n darlunio pwyth Kantha ynddyn nhw. Dwi’n ei ddarlunio o’r dechrau’n deg. Mae’n reddfol i mi nawr. Dwi jyst yn dwlu arni. Rydych chi i fod i farcio’ch llinellau a’i wneud y ffordd yna. Dwi jyst, jyst yn pwytho, a gweld i le mae’n f’arwain. Weithiau dwi’n newid fy lliw. Weithiau dwi’n newid fy nghotwm. Dwi’n cael llawer o gwiltwyr, fel cwiltwyr traddodiadol yn dod lan i mi ac yn dweud, dyw hi ddim yn hollol gywir. Does dim gwahaniaeth gyda fi. Dwi’n siŵr ei bod hi’n eithaf myfyriol, yn ‘dyw hi? Dwi’n ei wneud bron bob dydd. Mae wastad rhyw ddarn ar y gweill gyda fi. Dwi jyst yn dwlu ar yr effaith, crychni’r ffabrig wedi hynny, sut ydych chi’n gallu newid yr edafedd. Mae jyst cymaint chi’n gallu gwneud gyda hi. Ac mae’n bwyth rhedeg syml.
Yn eich gwaith presennol oes yna unrhyw ddylanwadau o ymarferion Indiaidd neu Asiaidd eraill rydych chi wedi’u mabwysiadu?
Dwi’n defnyddio llawer o ffabrigau Japaneaidd ac yn defnyddio printiau bloc Indiaidd. Pan dwi’n chwilio am fy ffabrigau dwi wastad yn trïo dod o hyd i fath o ffabrig selfais Indiaidd neu Asiaidd.
Mae hynny’n ddiddorol, mae llawer o bobol sy’n dod i’r siop yn aml yn holi ynglŷn â sut rydych chi’n dod o hyd i’ch ffabrigau.
Mae hwn yn gwestiwn dwi’n ei gael yn aml, ‘Beth sy’n dod gyntaf, y ddelwedd neu’r ffabrig?’. Achos dwi’n meddwl, i lot o gwiltwyr, maen nhw’n dod o hyd i ffabrig maen nhw’n ei hoffi ac yna maen nhw’n ei gwiltio. Tra ‘mod i’n dechrau gyda darlun ac yna’n chwilio am y ffabrigau. Mae Merchant and Mills yn dda iawn. Cloth House yn Llundain yn dda iawn hefyd. Dwi hefyd yn mwynhau edrych ar wneuthurwyr eraill, er enghraifft ydych chi bobol yn gwybod am Mara Vera Textiles? Mae hi lawr yng Nghernyw. Mae hi’n bendant yn werth edrych arni.
Rydych chi’n gweithio gyda chotwm yn bennaf, oes yna arwyddocâd i chi mewn defnyddio deunyddiau naturiol?
Oes, achos mae hi jyst yn well i’r byd. Dwi’n gwybod bod hynny’n wirioneddol ddu a gwyn. Dwi’n gweithio gyda llin lot mwy nawr. Mae’r cotymau dwi’n gweithio â nhw’n eithaf llachar, sy’n wych. Ond roeddwn i eisiau rhywbeth bach mwy cynnil. Ac eto, hyd yn oed yn fwy amgylcheddol gyfeillgar. A dyna le mae’r llin yn dod i mewn. Dwi wedi bod yn creu baneri llin gan ddefnyddio ffabrigau o Wild Linens ym Mryste. Dwi’n dal i weithio gyda chotwm; dwi’n hoffi’i ddefnyddio ar gyfer appliqué achos bod rhywbeth caled neis ganddo.
Oes yna ddeunyddiau rydych chi eto i weithio â nhw hoffech chi arbrofi neu weithio gyda nhw yn y dyfodol?
Dwi’n caru denim. Mae lot o bobol yn gofyn i mi a fydda’ i byth yn troi’n llaw at frodwaith Sashiko. A fydden i byth yn symud o bwythau rhedeg Kantha i Sashiko. Mae’n syniad mor hyfryd ac mae’n gweithio mor dda gyda denim. Ond dwi ddim eto’n gwybod sut. Gallech chi wneud unrhyw beth fel artist gweithredol mae’n siŵr? Felly, mae bron fel trïo ffeindio ffordd sy’n gweithio i chi.
Rydych chi wedi cydweithio gydag Ein Cegin, cegin gymunedol yng ngorllewin Cymru, o’r blaen. Beth oedd hyn yn ei olygu?
Daeth Ein Cegin ata’ i yn dilyn Gŵyl Grefft Aberteifi gan fod bach o gyllid gyda nhw. Mae ganddyn nhw brojectau creadigol yn ogystal â phrojectau coginio, ac roedd angen addurniadau arnyn nhw, rhai baneri ar gyfer y Farchnad Ffermwyr newydd yn Aberteifi. Cafodd Neuadd y Dref yn Aberteifi ei ailddyfeisio’n llwyr, gwaith adnewyddu. I ddathlu hyn, maen nhw wedi ailsefydlu marchnad i gynhyrchwyr bob yn ail fis, sy’n grêt, llysiau organig, pysgod, cig, pob math o bethau. Cynhalion ni gyfres o weithdai gyda Flying Start, sydd ar gyfer teuluoedd ifanc o gefndir gwaith er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu ynglŷn â sut i goginio ar gyllideb weddol fach. Ond hefyd, i greu. Gwnaethon ni greu dwy faner ynglŷn â beth mae’r farchnad yn ei olygu i chi? Roedden ni’n edrych ar dreftadaeth y dref, bwyd, o le daw bwyd, a’r bywyd gwyllt.
Mae eich casgliad o weithiau sydd i’w gweld ar hyn o bryd yn siop Oriel Myrddin yn dangos tirweddau gwledig lliwgar wedi’u haddurno â ffermdai. Beth yw eich proses wrth gynllunio’ch darnau cyn i chi godi nodwydd ac edafedd?
Dwi’n gwneud collage, dwi’n darlunio, dwi’n paentio. Dwi’n mynd am dro, mae gyda fi gyfeirgi Almaenig a hi yw fy mywyd. Dim ond crwydro. Dwi’n edrych ar y tai anghyfannedd, achos gallwch ddim help ond dyfalu beth oedd yno, a bron o’r pwynt hwnnw dwi’n creu fy stori fy hun. Mae yna un go enwog yng Nghenarth, dwi’n argymell yn gryf i bobol mynd yno a chael golwg arno. Pan rydych chi’n cerdded llwybr bordiau newydd y Teifi ac yn mynd nôl i’r coetiroedd mae yna dŷ gyda’r ardd fwyaf hardd, mae’n dadfeilio, mae’n ddi-raen, ac mae arwydd wedi’i baentio â llaw yno yn dweud nid yw’r tŷ ar werth. Hwn yw fy hoff dŷ yn y byd i gyd yn grwn. Dwi wastad yn mynd nôl i ymweld ag e, ac mae wedi ymddangos yn eithaf lot o fy ngwaith newydd sydd ar y gweill. Dwi jyst yn caru’r syniad yma o beth oedd yno? Beth allai fod yno? Dyna pam mae wastad ffermdy yn fy ngwaith.
Pa brojectau sydd ar y gweill rydych chi’n edrych ymlaen atyn nhw?
Dwi’n gweithio gydag Ein Cegin a Flying Start eto. Rydyn ni’n edrych ar yr afon Teifi ar gyfer yr Eisteddfod. Rydyn ni newydd fod yn braslunio a phwytho. Dwi’n gwrando arnyn nhw’n adrodd straeon am eu perthynas â’r afon. O hynny byddaf yn creu tair baner yn fy arddull i. Mae lot o fy ngwaith yn dod drwy wrando ar bytiau o straeon. Enillais y preswyliad gyda’r Eisteddfod a fydd, o ennill y dyfarniad hwn, fel cylch cyflawn. Eleni byddaf yn arddangosydd yng Ngŵyl Grefft Aberteifi ym mis Medi. Dwi’n dod â hen ffrâm gwiltio luniodd fy ngŵr i mi ac fe fydd hefyd yn ddegfed pen-blwydd ein priodas. Byddaf yn arddangos pwytho rhedeg Kantha ar un o fy nghwiltiau hefyd. Mae gyda fi hefyd bum siop wahanol yn gwerthu a dychwelyd. Dwi wedi cael haf prysur, felly dwi’n gobeithio cymryd bach o amser i mi fy hun a chreu eto.
Darganfyddwch fwy gan Sophie Snow a chadwch i fyny â'i gwaith a'i chyhoeddiadau diweddaraf ar Instagram @bronwengwillim.