Ffilm fer gan: MONA Productions
Cymru yn Fenis / Wales in Venice
Sownd: Manon Awst + Dylan Huw
9 Mai – 22 Tachwedd 2026
Istituto Santa Maria della Pietà, Fenis
Mae’r ffilm fer hon yn cyflwyno Sownd, y prosiect sy’n cynrychioli Cymru yn 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia 2026, un o ddigwyddiadau celf gyfoes bwysicaf y byd.
Mae Sownd yn osodwaith ymdrochol sy’n archwilio cysylltiadau rhwng tirwedd, iaith a deunydd. Mae’r artistiaid yn dod ag elfennau naturiol o ogledd Cymru a lagŵn Fenis ynghyd, a’u cyfuno â sain, cerflunwaith a thestun i greu un amgylchedd rhyng-gysylltiedig, wedi’i siapio gan yr adeilad hanesyddol. Ochr yn ochr â’r arddangosfa yn Fenis, mae digwyddiadau byw yng Nghymru yn gwahodd cynulleidfaoedd i brofi’r tirweddau y tu ôl i’r gwaith yn uniongyrchol.
Bydd y ffilm fer i’w gweld tan 22 Tachwedd, yng nghaffi Oriel Myrddin.
Dysgwch fwy am Cymru yn Fenis a SOWND:
Delweddau: Dewi Tannatt Lloyd
Tagiau:
Manon Awst | @manon_awst
Dylan Huw | @dylan_huw
Oriel Davies | @orieldavies
Wales in Venice | @walesinvenice
Colwinston Trust | @colwinstoncharitabletrust
ArtFund | @artfund
Arts Council of Wales | @celfcymruarts